Rhieni, gofalwyr a theuluoedd
Os yw eich plentyn eisoes wedi dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid, neu os ydych yn pryderu y gallai ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid, neu os hoffech wybod mwy am faterion cyfiawnder ieuenctid, darllenwch drwy dudalennau’r adran hon, sy’n rhoi gwybodaeth am:
- sut y gellir atal troseddau ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys atal troseddau drwy raglenni rhianta a Gorchmynion Rhianta
- dalfeydd, gan gynnwys gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i ymweld â phobl ifanc sy’n treulio cyfnod mewn dalfa
- beth sy’n digwydd ar ôl i berson ifanc gael ei ryddhau o’r ddalfa
- y pethau y mae angen i chi feddwl amdanynt os yw eich plentyn yn cael ei roi dan ryw fath o wyliadwriaeth, megis tagio.
Dylech hefyd glicio ar y ddolen gyswllt i gael gwybodaeth am sut mae’r system cyfiawnder ieuenctid yn gweithio, a beth a phwy sy’n ymwneud â phob cam.
Y System
Cliciwch ar y dolenni
cyswllt i fynd trwy’r system cyfiawnder ieuenctid a gweld beth a phwy sy’n gysylltiedig â phob cam.
Rhaglenni a
gorchmynion rhianta
Gwybodaeth am sut y caiff rhieni eu cynnwys os yw
eu plentyn yn dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid.
Cymorth ar gyfer ymweliadau teuluol
Cymorth yr YJB ar gyfer ymweliadau teuluol, sy’n helpu teuluoedd i ymweld â’u plant yn wythnosol.