Gweithio a Gwirfoddoli yn y maes
Mae gweithio yn y system cyfiawnder ieuenctid yn brofiad gwerthfawr a gwerth chweil, ac mae’n eich galluogi i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc sydd wedi troseddu neu sydd mewn perygl o wneud hynny.
Gallwch ddod yn rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid mewn dwy ffordd sef:
Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa fel ymarferwr cyfiawnder ieuenctid, mae gennym wybodaeth am y mathau o swyddi a hyfforddiant sydd ar gael. Gallwch ddysgu am y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a’r gwahanol gymwysterau sy’n rhan ohono.
Os hoffech fod yn wirfoddolwr yn y system cyfiawnder ieuenctid, gallwch ddarganfod mwy am y sgiliau sydd eu hangen arnoch, yr hyfforddiant y byddech yn ei gael a phwy y dylech gysylltu â nhw. Gallwch ddarllen am y gwahanol fathau o waith gwirfoddol sydd ar gael, gan gynnwys bod yn oedolyn priodol, yn fentor neu’n aelod o banel troseddwyr ifanc, neu am sut y gallech helpu pobl ifanc â’u sgiliau darllen.
Mae busnesau yn gallu ymwneud â’r system cyfiawnder ieuenctid hefyd, drwy gefnogi eu staff â’u gwaith gwirfoddol neu drwy gynnig gwasanaethau eraill.
Mae cyfleoedd ar gael i bobl o bob oedran a phobl ag amrywiaeth o sgiliau, felly os ydych chi’n credu bod gennych chi'r hyn sydd ei angen, rhowch wybod i’ch tîm troseddau ieuenctid lleol...ac ewch amdani.
Gyrfaoedd
Gwybodaeth am y swyddi a’r hyfforddiant sydd ar gael, gan gynnwys y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.
Gwirfoddoli
Gwybodaeth am y sgiliau sydd eu hangen arnoch, yr hyfforddiant y byddech yn ei gael a’r gwahanol fathau o waith gwirfoddol sydd ar gael.
Manylion cyswllt y timau troseddau ieuenctid
Dewch o hyd i’ch tîm troseddau ieuenctid lleol a chysylltwch â nhw er mwyn gweld pa gyfleoedd sydd ar gael.