Cliciwch ar y ddolen gyswllt i weld sut mae’r system cyfiawnder ieuenctid yn gweithio, a beth a phwy sy’n ymwneud â phob cam.
Darllenwch ein gwybodaeth am dimau troseddau ieuenctid, sy’n gweithio gyda phobl ifanc i’w hatal rhag troseddu ac aildroseddu, ac am y rhaglenni atal troseddau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i geisio sicrhau nad ydynt yn dechrau troseddu.
Gweler ein hadran ar y ddalfa, sy’n cynnwys manylion am y cyngor sydd ar gael i bobl ifanc sydd yn y ddalfa neu sydd wedi gadael y ddalfa yn ddiweddar. Mae canllawiau ar gael hefyd sy’n egluro sut y gall teuluoedd gael cymorth ariannol i ymweld â phobl ifanc sydd yn y ddalfa.
Mae gennym hefyd wybodaeth am y cymorth sydd ar gael pan fydd pobl ifanc yn gadael y ddalfa.
Mae’r wefan yn esbonio’r hyn y mae angen i chi ei wybod am gyfiawnder ieuenctid ac mae ganddi eirfa yn cynnwys rhai o’r termau y byddwch efallai’n eu clywed pan fydd pobl yn sôn am gyfiawnder ieuenctid. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys storïau am brofiadau pobl ifanc o drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.