Cychwynnodd y rhaglen arolygu Timau Troseddau Ieuenctid ym mis Mehefin 2003. Caiff pob un o’r Timau Troseddau Ieuenctid yng Nghymru a Lloegr eu harolygu dros gyfnod o bump i chwe blynedd. Mae’r rhaglen arolygu wedi’i rhannu’n bedwar cam. Cychwynnodd arolygiadau cam pedwar ym mis Mawrth 2007.
Yn ystod y pedwerydd cam hwn, bydd Timau Troseddau Ieuenctid yn cael eu hasesu ar sail eu:
- gwaith yn y llysoedd
- gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn y gymuned
- gwaith gyda phlant a phobl ifanc sy’n destun dedfrydau mewn dalfeydd
- gwaith gyda dioddefwyr a chyfiawnder adferol
- gwaith rheoli ac arwain.
Dyma’r naw arolygiaeth sy’n gyfrifol am arolygu Timau Troseddau Ieuenctid: y Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Gwella Iechyd, Estyn (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru), Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi, y Swyddfa Safonau Addysg (Ofsted), yr Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Cliciwch i weld yr adroddiadau arolygu [yn agor mewn ffenest newydd].
Cliciwch i weld yr adroddiad ar gam cyntaf y gwaith arolygu: Joint Inspection of Youth Offending Teams - Annual Report 2006-2007 [yn agor mewn ffenest newydd].
Ceir mwy o fanylion ynghylch arolygiadau’r Timau Troseddau Ieuenctid, gan gynnwys safonau a meini prawf ar gyfer Cam Tri, ar wefan Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi [yn agor mewn ffenest newydd].