Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Timau troseddau ieuenctid - Pwy yw’r rhain? Beth maent yn ei wneud?
Mae’r timau troseddau ieuenctid yn allweddol i lwyddiant y system cyfiawnder ieuenctid.
Ceir tîm troseddau ieuenctid ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Maent yn cynnwys cynrychiolwyr o’r heddlu, y Gwasanaeth Prawf a’r gwasanaethau cymdeithasol, a swyddogion sy’n gweithio ym maes iechyd, addysg, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a thai. Caiff pob Tîm Troseddau Ieuenctid ei reoli gan reolwr Tîm Troseddau Ieuenctid sy’n gyfrifol am gydlynu gwaith y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid.
Gan fod y tîm troseddau ieuenctid yn cynnwys cynrychiolwyr o ystod eang o wasanaethau, gall ymateb i anghenion troseddwyr ifanc mewn modd cynhwysfawr. Mae’r tîm troseddau ieuenctid yn adnabod anghenion pob troseddwr ifanc drwy’i asesu gan ddefnyddio asesiad cenedlaethol. Mae’r asesiad yn adnabod y problemau penodol sy’n gwneud i’r person ifanc droseddu, yn ogystal â mesur y risg y mae’n ei pheri i eraill. Mae hyn yn galluogi’r tîm troseddau ieuenctid i adnabod rhaglenni addas i ddiwallu anghenion y person ifanc, gyda’r bwriad o’i atal rhag troseddu eto.
Cliciwch ar y ddolen gyswllt er mwyn gweld manylion cyswllt y timau troseddau ieuenctid.
Cliciwch ar y ddolen gyswllt er mwyn gweld adroddiadau arolygu’r timau troseddau ieuenctid.