Dioddefwyr
Cyfiawnder adferol
Os ydych wedi dioddef o ganlyniad i drosedd, efallai y cewch gynnig cyfle i gymryd rhan mewn proses cyfiawnder adferol. Mae hyn yn golygu bod y rheiny y mae trosedd yn effeithio’n uniongyrchol arnynt, sef y dioddefwr, y troseddwr ac aelodau o’r gymuned, yn cael cyfle i drafod a chytuno ar sut i ddelio â’r trosedd a’i ganlyniadau.
Fel rheol, mae prosesau adferol yn golygu bod y troseddwr yn cymryd camau ymarferol i wneud iawn am y niwed a achoswyd – gall hyn gynnwys ymddiheuro. Gall y cyfathrebu rhwng y dioddefwr a’r troseddwr helpu’r dioddefwr i roi’r trosedd y tu ôl iddo a bod yn fwy bodlon â’r canlyniad.
Cafodd y ddogfen ymgynghori, Developing Restorative Justice: An Action Plan [43Kb PDF, mae’n agor mewn ffenestr newydd], ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2006 ac mae’n cyflwyno’r camau gweithredu arfaethedig a fydd yn cael eu cymryd er mwyn hybu arferion effeithiol ym maes cyfiawnder adferol.
Mae cyfiawnder adferol yn rhan bwysig o orchmynion a dedfrydau cyfiawnder ieuenctid, o Rybuddion Terfynol a Gorchmynion Cyfeirio i Orchmynion Gwneud Iawn, Gorchmynion Cynllun Gweithredu a Gorchmynion Goruchwylio. Dyma’r prosesau adferol mwyaf adnabyddus a’r rhai sy’n cael eu defnyddio fwyaf aml:
- Cyfryngu rhwng y dioddefwr a’r troseddwr
Mae’r dioddefwr a’r troseddwr yn cael cymorth person annibynnol i gyfathrebu â’i gilydd. Gall hyn fod trwy gyfarfod uniongyrchol neu, os yw’r dioddefwr neu’r troseddwr yn dewis hynny, gall ddigwydd trwy gyfarfod anuniongyrchol gyda’r trydydd person yn gweithredu fel pont mewn proses gyfryngu sy’n mynd yn ôl ac ymlaen. Gellir gofyn cwestiynau, cyfnewid gwybodaeth a dod i gytundeb.
- Cynhadledd adferol
Mae’r dioddefwr a’r troseddwr a’r rheiny sy’n eu cefnogi a’u cynorthwyo, yn cyfarfod â’i gilydd mewn cynhadledd a gaiff ei rhedeg gan berson sydd wedi’i hyfforddi’n briodol. Ar y diwedd, caiff cytundebau eu gwneud sy’n nodi’r camau y bydd y troseddwr yn eu cymryd i ddelio â’r niwed a wnaed.
- Cynhadledd grŵp teuluol
Mae’r person ifanc sydd wedi troseddu, ynghyd ag aelodau o’i deulu estynedig, yn cyfarfod â’r dioddefwr a’r rheiny sy’n ei gefnogi a’i gynorthwyo. Gall y gynhadledd hefyd gynnwys cynrychiolwyr o wahanol asiantaethau, e.e. y gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion. Caiff y cyfarfod ei redeg gan drydydd person annibynnol ac wedi i’r rheiny sy’n bresennol fynegi eu safbwyntiau, mae’r teulu’n cael amser ar ei ben ei hun i greu cynllun. Yna, caiff y cynllun ei roi gerbron y gynhadledd i’w gymeradwyo.
- Y Gorchymyn Cyfeirio a Phaneli Troseddwyr Ifanc
Mae troseddwyr ifanc sydd wedi’u barnu’n euog am y tro cyntaf, a’u rhieni, yn cyfarfod â phanel o wirfoddolwyr o’r gymuned sydd wedi’u hyfforddi’n briodol. Mae’r cyfarfod â’r panel yn gyfle i drafod y trosedd a’i ganlyniadau a chytuno ar gontract i wneud iawn am y niwed. Yn ogystal, mae’n gyfle i drafod sut i fynd i’r afael â’r ffactorau sy’n cyfrannu at yr ymddygiad troseddol. Caiff dioddefwyr eu gwahodd i ddod i’r cyfarfod neu mae trefniadau’n cael eu gwneud i gyflwyno safbwynt y dioddefwr i’r panel.
Gwneud iawn
Mae gwneud iawn yn ffordd ymarferol o dalu’n ôl am y niwed a achoswyd gan y trosedd, naill ai drwy gymryd camau uniongyrchol i unioni’r sefyllfa neu drwy wneud gwaith adeiladol i helpu’r gymuned leol. Fel rheol, caiff y dioddefwr ei gynnwys yn y drafodaeth ynghylch yr hyn y dylid ei wneud. Gall gwneud iawn gynnwys:
- Gwneud iawn i'r dioddefwr
Er enghraifft, ymddiheuro ar lafar neu’n ysgrifenedig. Gall hyn hefyd gynnwys iawndal ariannol neu weithgareddau dan oruchwyliaeth i wneud iawn am y niwed a achoswyd.
- Gwneud iawn i’r gymuned
Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i dalu’n ôl i’r gymuned, gan gynnwys gwaith tebyg i weithgareddau gwasanaeth cymunedol.