Dioddefwyr Troseddau
Os ydych wedi dioddef o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drosedd a gyflawnwyd gan blentyn neu berson ifanc, darllenwch y dudalen hon.
Cliciwch ar y ddolen gyswllt i weld sut mae’r system cyfiawnder ieuenctid yn gweithio, a beth a phwy sy’n gysylltiedig â phob cam.
Cliciwch ar y ddolen gyswllt i ddarllen am y Côd Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau, sy’n nodi lefel y gwasanaeth y gall dioddefwyr troseddau ddisgwyl ei gael gan y system cyfiawnder ieuenctid.
Mae gennym hefyd wybodaeth am gyfiawnder adferol, sy’n medru bod yn rhan o’r rhan fwyaf o ddedfrydau, gorchmynion a chytundebau cyfiawnder ieuenctid. Mae prosesau cyfiawnder adferol yn golygu bod y rheiny y mae trosedd yn effeithio’n uniongyrchol arnynt, sef y dioddefwr, y troseddwr ac aelodau o’r gymuned, yn cael cyfle i drafod a chytuno ar sut i ddelio â’r trosedd a’i ganlyniadau.
Beth fydd yn digwydd i chi os ydych wedi dioddef o ganlyniad i drosedd?
Ewch i’r dudalen Victims Virtual Walkthrough [yn agor mewn ffenest newydd] ar wefan y System Cyfiawnder Troseddol er mwyn cael syniad o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl os ydych wedi dioddef o ganlyniad i drosedd. Bydd y dudalen hon yn eich tywys trwy’r broses, o’r adeg y caiff yr heddlu wybod am y trosedd, drwy ymchwiliad yr heddlu, y penderfyniad i ddwyn achos, prosesau’r llys, a dedfrydu.
Gallwch hefyd droi at wefan y Swyddfa Gartref i lawrlwytho canllaw ar gyfer dioddefwyr [yn agor mewn ffenest newydd]. Mae’r canllaw yn gysylltiedig â’r Côd Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau ac mae’n rhoi manylion pellach ynghylch yr hyn y gall dioddefwyr ei ddisgwyl gan bob un o’r asiantaethau cyfiawnder ieuenctid.
Bod yn dyst
Os ydych yn dyst i drosedd, dylech fynd i’r dudalen Witness Virtual Walkthrough [yn agor mewn ffenest newydd] ar wefan y System Cyfiawnder Troseddol.
Côd Ymarfer
Gwybodaeth am lefel y gwasanaeth y gallwch ddisgwyl ei gael gan amrywiol elfennau’r system cyfiawnder ieuenctid.
Cyfiawnder adferol
Beth yw cyfiawnder adferol?
Gwybodaeth i’r dioddefwr
Canllaw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl os ydych yn dioddef o ganlyniad i drosedd.