Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Dedfrydau, gorchmynion a chytundebau
Pan fydd pobl ifanc yn mynd i drybini, yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol neu’n cyflawni mân droseddau am y tro cyntaf, fel rheol gall yr heddlu a’r awdurdod lleol ddelio â hwy y tu allan i system y llysoedd, gan ddefnyddio amrywiaeth o orchmynion a chytundebau. Diben hyn yw atal pobl ifanc rhag cael eu sugno i’r System Cyfiawnder Ieuenctid yn rhy gynnar, gan sicrhau ar yr un pryd eu bod yn cael yr help a’r cymorth y mae eu hangen arnynt i’w hatal rhag troseddu.
Isod rhestrir yr holl ddedfrydau, gorchmynion a chytundebau y gellir eu cael ar bob cam o’r system cyfiawnder ieuenctid. Cliciwch ar y dolenni cyswllt i weld beth yn union yw pob un.
Dylech hefyd glicio i ddarllen am y Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys. Gall mynychu rhaglen o’r fath fod yn amod sy’n cael ei osod wrth roi mechnïaeth, Gorchymyn Goruchwylio neu Orchymyn Ailsefydlu i berson ifanc. Gall y rhaglen hefyd fod yn elfen o Orchymyn Cadw a Hyfforddi neu ddedfryd 90/91 sy’n cael ei chyflawni yn y gymuned.
Mesurau cyn achos llys
Mesurau ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mesurau eraill
Mesurau ar gyfer plant dan 10 oed
Dedfrydau yn y gymuned
Mae’r gorchmynion canlynol ar gael i’w defnyddio ochr yn ochr â’r holl ddedfrydau yn y gymuned
Dedfrydau mewn dalfa