Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Gorchymyn Goruchwylio
Gall Gorchymyn Goruchwylio bara hyd at dair blynedd. Pan gaiff ei ddefnyddio ar gyfer troseddau mwy difrifol, gall y Gorchymyn Goruchwylio gynnwys nifer o amodau. Caiff y rhain eu galw’n ‘weithgareddau penodedig’ a gallant bara am hyd at 90 diwrnod. Mae ‘gweithgareddau penodedig’ yn gallu cynnwys cymryd rhan mewn rhaglen goruchwyliaeth a gwyliadwriaeth ddwys, triniaeth ar gyfer problemau cyffuriau (ar gyfer pobl ifanc 16 oed a hŷn), cyrffiw neu ofynion preswylio eraill a allai olygu bod rhaid i berson ifanc fyw mewn llety awdurdod lleol dros gyfnod y ddedfryd.
Mae’n ofynnol hefyd i berson ifanc sy’n cael Gorchymyn Goruchwylio gymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir gan y tîm troseddau ieuenctid. Gall y rhain gynnwys gwneud iawn am y niwed a achoswyd gan y trosedd, naill ai i’r dioddefwr neu i’r gymuned, a rhaglenni i fynd i’r afael â’r ymddygiad troseddol, megis rheoli tymer.