Os yw person ifanc yn cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd y gallai oedolyn fod yn treulio o leiaf 14 mlynedd yn y carchar am ei gyflawni, mae’n bosibl y caiff ei ddedfrydu dan Adran 90/91. Dim ond yn Llys y Goron y gellir rhoi’r ddedfryd hon.
Os yw person ifanc yn cael ei ddyfarnu’n euog o lofruddiaeth, mae’r ddedfryd yn dod dan Adran 90, fel arall, bydd y ddedfryd yn dod dan Adran 91. Gall hyd y ddedfryd amrywio hyd at y cyfnod hiraf posibl ar gyfer oedolyn sydd wedi cyflawni’r un trosedd, ac, yn achos rhai troseddau penodol, gall hynny olygu dedfryd am oes.
Bydd person ifanc sy’n cael dedfryd Adran 90/91 yn cael ei roi mewn dalfa.
Os yw person ifanc yn cael dedfryd o lai na phedair blynedd, bydd yn gadael y ddalfa hanner ffordd drwy ei ddedfryd. Yna, bydd yn cael ei oruchwylio ar drwydded gan ei swyddog goruchwylio hyd nes y bydd cyfnod sy’n gyfwerth â thri chwarter y ddedfryd wedi mynd heibio. Dan rai amodau penodol, gall y person ifanc gael ei ryddhau gyda thag hyd at 134 diwrnod yn gynharach, dan y cynllun Cyrffiw Gartref. Yn achos person ifanc sydd wedi cael dedfryd o bedair blynedd neu fwy, bydd yn gadael y ddalfa hanner ffordd drwy ei ddedfryd, os yw’r gwrandawiad parôl yn llwyddiannus. Os nad yw’r gwrandawiad yn llwyddiannus, bydd yn gadael y ddalfa tri chwarter y ffordd drwy ei ddedfryd. Yn y naill achos a’r llall, bydd yn cael ei oruchwylio gan ei swyddog goruchwylio hyd nes bod cyfnod sy’n gyfwerth â thri chwarter y ddedfryd wedi mynd heibio.