Mae Gorchmynion Gwneud Iawn wedi’u bwriadu i helpu troseddwyr ifanc i ddeall canlyniadau eu troseddau a chymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad. Maent yn gofyn i’r person ifanc wneud iawn am y niwed a achoswyd gan y trosedd, naill ai’n uniongyrchol i’r dioddefwr (gall hyn olygu gwaith cyfryngu rhwng y dioddefwr a’r troseddwr os yw’r ddwy ochr yn cytuno i hynny), neu’n anuniongyrchol i’r gymuned. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys glanhau graffiti neu ymgymryd â gwaith cymunedol. Caiff y gorchymyn ei oruchwylio gan y tîm troseddau ieuenctid.