Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Gorchymyn Rhianta
Gellir rhoi Gorchmynion Rhianta i rieni/gofalwyr pobl ifanc sy’n troseddu, sy’n chwarae triwant, sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol neu sydd wedi cael Gorchymyn Diogelwch i Blant, Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, neu Orchymyn Atal Troseddau Rhywiol. Nid yw’n golygu bod y rhiant/gofalwr yn cael cofnod troseddol.
Fel rheol, bydd gofyn i riant/gofalwr sy’n cael gorchymyn fynychu sesiynau cynghori neu sesiynau cyfarwyddyd am gyfnod o hyd at dri mis. Efallai y bydd amodau’n cael eu pennu hefyd megis mynychu cyfarfodydd ag athrawon yn ysgol eu plentyn, sicrhau nad yw eu plentyn yn ymweld â lle penodol heb oruchwyliaeth, neu sicrhau bod eu plentyn gartref ar adegau penodol. Gall yr amodau hyn bara am gyfnod o hyd at 12 mis. Gellir erlyn rhiant/gofalwr am fethu â chadw at ofynion y gorchymyn.