Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys (ISSP)
Ar wahân i ddedfrydau sy’n golygu treulio cyfnod mewn dalfa, y Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys yw’r ymyriad mwyaf llym sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc. Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae’r Rhaglen yn gyfuniad o ddwy elfen. Yn gyntaf, ceir gwyliadwriaeth yn y gymuned ar lefel uwch nag a gafwyd erioed o’r blaen. Yn ail, ceir gwaith sy’n canolbwyntio mewn modd cynhwysfawr a pharhaus ar fynd i’r afael â’r ffactorau sy’n cyfrannu at ymddygiad troseddol y person ifanc.
Mae’r Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys yn targedu’r troseddwyr ifanc hynny sy’n troseddu’n gyson ac yn aml, a’r rheiny sy’n cyflawni’r troseddau mwyaf difrifol.
Nod y rhaglen yw:
- gweithio gyda’r grwpiau targed a’u cael i droseddu’n llai aml a chyflawni troseddau llai difrifol
- mynd i’r afael ag anghenion sylfaenol troseddwyr a’r ffactorau sy’n arwain at droseddu, gan roi pwyslais arbennig ar addysg a hyfforddiant
- rhoi tawelwch meddwl i gymunedau drwy gadw golwg manwl ar droseddwyr ac ategu hynny gyda chamau gorfodi llym.
Mae’r Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys yn gweithredu ar draws Cymru a Lloegr gyfan. Ceir 81 o gynlluniau o’r fath ac mae’r ymyriad ar gael ym mhob un o’r 156 o Dimau Troseddau Ieuenctid.
Ers i’r rhaglen gychwyn ym mis Gorffennaf 2001 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2006, roedd 19,037 o bobl ifanc a oedd yn troseddu’n barhaus wedi’u cyfeirio at Raglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys. Roedd 5,564 o bobl ifanc yn cychwyn ar y Rhaglen yn ystod 2005/06 yn unig.
Mae tîm penodol a phwrpasol yn gyfrifol am gyflwyno Rhaglenni Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys; mae’r tîm hwn yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Troseddau Ieuenctid lleol, neu mewn rhai achosion bydd yn gweithio gyda phartneriaeth o Dimau Troseddau Ieuenctid.
Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn treulio chwe mis ar Raglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys. Mae’r oruchwyliaeth fwyaf dwys (25 awr yr wythnos) yn para am dri mis cyntaf y rhaglen.
Yn dilyn hyn, mae’r oruchwyliaeth yn parhau ar lefel llai dwys (o leiaf pum awr yr wythnos, a chymorth ar benwythnosau) am dri mis arall.
Ar ôl cwblhau’r Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys, bydd y person ifanc yn parhau i gael ei oruchwylio am y cyfnod sy’n weddill o’i orchymyn.
Defnyddiwch y ddewislen ar y chwith os hoffech wybod mwy am y canlynol: