Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Gorchymyn Cadw a Hyfforddi
Mae’r Gorchymyn Cadw a Hyfforddi yn dedfrydu person ifanc i dreulio cyfnod mewn dalfa. Gellir rhoi’r ddedfryd hon i blant a phobl ifanc rhwng 12 ac 17 oed. Gall hyd y ddedfryd fod rhwng pedwar mis a dwy flynedd. Caiff hanner cyntaf y ddedfryd ei dreulio yn y ddalfa tra bod yr ail hanner yn cael ei dreulio yn y gymuned dan oruchwyliaeth y tîm troseddau ieuenctid. Yn ystod y cyfnod hwn yn y gymuned, gall y llys fynnu bod y person ifanc yn cael ei roi ar Raglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys.
Mae’r llysoedd ond yn rhoi Gorchymyn Cadw a Hyfforddi i bobl ifanc sy’n berygl i eraill, sydd â hanes sylweddol o droseddu neu sy’n cyflawni troseddau’n barhaus a lle na fydd unrhyw ddedfryd arall yn rheoli’r risg yn effeithiol. Rhoddir ystyriaeth bob amser i ddifrifoldeb y trosedd wrth ddedfrydu person ifanc i Orchymyn Cadw a Hyfforddi.