Mae’r ddedfryd hon yn gofyn i berson ifanc aros mewn lle penodedig am gyfnodau penodol o amser, a gellir ei rhoi ochr yn ochr â gorchmynion cymunedol eraill. Gall y cyfnod o amser fod rhwng dwy a deuddeg awr y dydd ac ni all y ddedfryd bara mwy na:
- chwe mis ar gyfer y rheiny sy’n 16 oed ac yn hŷn
- tri mis ar gyfer y rheiny sydd dan 16 oed.