Nid yw person ifanc sy’n cael Rhyddhad Amodol yn cael unrhyw gosb yn syth. Mae cyfnod rhwng chwe mis a thair blynedd yn cael ei bennu, ac ar yr amod nad yw’r person ifanc yn cyflawni trosedd arall o fewn y cyfnod hwn, ni fydd unrhyw gosb yn cael ei rhoi. Fodd bynnag, os yw’r person ifanc yn cyflawni trosedd arall yn ystod y cyfnod hwn, gellir ei ddwyn yn ôl i’r llys a’i ailddedfrydu.
Dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gall llysoedd ddefnyddio’r ddedfryd hon.