Mae’r gorchymyn hwn yn berthnasol i blant dan 10 oed yn unig. Gellir rhoi’r gorchymyn hwn i blentyn sydd wedi cyflawni trosedd, sydd wedi torri Cyrffiw i Blant neu sydd wedi achosi aflonyddwch, gofid neu fraw i bobl eraill.
Dan Orchymyn Diogelwch i Blant, mae gweithiwr cymdeithasol neu swyddog o’r tîm troseddau ieuenctid yn goruchwylio’r plentyn. Os nad yw’r plentyn yn cydymffurfio â’r gorchymyn, gellir rhoi gorchymyn rhianta i’w rieni pe bai hynny o gymorth i atal y plentyn rhag ailadrodd yr ymddygiad a arweiniodd at roi’r gorchymyn diogelwch i blant.