Mae Gorchymyn Canolfan Ymbresenoli yn gorfodi person ifanc i fynychu canolfan ymbresenoli.
Prif ddiben canolfannau ymbresenoli yw cyfyngu ar amser hamdden troseddwyr ifanc - maent ar agor ar ddydd Sadwrn am ddwy neu dair awr. Mae rhaglenni’r canolfannau yn canolbwyntio ar waith grŵp i roi sgiliau sylfaenol i’r rheiny sy’n eu mynychu, er enghraifft, llythrennedd a rhifedd, sgiliau bywyd, coginio, cymorth cyntaf a rheoli arian, yn ogystal â’u hannog i wneud gwell defnydd o’u hamser hamdden.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys sesiynau sy’n codi ymwybyddiaeth am ddioddefwyr, gan ystyried yr effaith y mae troseddu yn ei chael ar unigolion a’r gymuned a’r modd y gall y person ifanc wneud iawn am ei weithredoedd. Yn ogystal, ceir sesiynau sy’n codi ymwybyddiaeth am beryglon cyffuriau ac alcohol a materion iechyd rhywiol.
Gall y gorchymyn bara hyd at 36 awr, gan ddibynnu ar oedran y troseddwr a difrifoldeb y trosedd.