Gellir defnyddio Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn erbyn unrhyw un sy’n 10 oed neu’n hŷn ac sydd wedi ymddwyn mewn modd a oedd yn achosi, neu a oedd yn debygol o achosi, aflonyddwch, braw neu ofid i rywun neu rywrai nad ydynt yn byw yn yr un cartref ag ef/hi.
Mae Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn atal y person ifanc rhag mynd i fannau penodol neu wneud pethau penodol. Os nad yw’r person ifanc yn cydymffurfio â’r gorchymyn, gellir cymryd camau pellach yn ei erbyn.
Gall unrhyw un o’r asiantaethau canlynol wneud cais am orchymyn, yn amodol ar rwymedigaeth gyfreithiol i ymgynghori ag asiantaethau eraill.
- Awdurdodau lleol: cynghorau dosbarth, bwrdeistrefi Llundain, Corfforaeth Llundain, Ynys Wyth, siroedd neu fwrdeistrefi sirol Cymru a chynghorau sir Lloegr
- Awdurdodau Heddlu
- Heddlu Trafnidiaeth Prydain
- Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (fel y’u diffinnir gan Adran 1 Deddf Tai 1996)
- Gweithgorau lletya neu Housing Action Trusts (fel y’u diffinnir gan Adran 62 Deddf Tai 1988)
Os hoffech gael mwy o wybodaeth ar rymoedd yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gweler gwefan Respect [yn agor mewn ffenest newydd].