Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Paneli Cynhwysiant a Chymorth ar gyfer Pobl Ifanc
Nod Paneli Cynhwysiant a Chymorth ar gyfer Pobl Ifanc (YISPs) yw atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith plant rhwng 8 a 13 oed yr ystyrir bod perygl mawr iddynt droseddu.
Maent wedi’u cynllunio i helpu’r YJB i gyrraedd ei darged o roi rhaglenni ar waith ym mhob Tîm Troseddau Ieuenctid yng Nghymru a Lloegr, a fydd yn adnabod pobl ifanc sy’n debygol o droseddu ac yn gweithio gyda hwy i leihau’r tebygolrwydd hwnnw.
Mae’r paneli yn cynnwys nifer o gynrychiolwyr o wahanol asiantaethau (e.e. yr heddlu, ysgolion, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol). Prif bwyslais y gwaith a wneir gan y paneli yw sicrhau bod plant a’u teuluoedd yn medru cael mynediad i wasanaethau cyhoeddus prif-ffrwd, a hynny ar y cyfle cynharaf posibl.
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus a gychwynnodd ym mis Ebrill 2003, mae’r YJB a Chronfa’r Plant bellach yn cyllido 122 o Baneli Cynhwysiant a Chymorth ar gyfer Pobl Ifanc. O’r rhain, mae 13 o ardaloedd peilot wedi cael cymorth ychwanegol i ddatblygu gweithdrefnau ac arfer arloesol, a bydd y rhain yn eu tro yn darparu fframwaith arfer gorau ar gyfer yr holl Baneli Cynhwysiant a Chymorth eraill.