Cafodd y Rhaglenni Cynhwysiant cyntaf ar gyfer Pobl Ifanc eu sefydlu yn 2000. Mae’r rhain yn rhaglenni sydd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer pobl ifanc 8 i 17 oed sydd wedi’u hadnabod fel rhai sydd mewn perygl mawr o droseddu neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Mae Rhaglenni Cynhwysiant hefyd ar agor i bobl ifanc eraill yn yr ardal leol. Mae’r rhaglenni yn gweithredu mewn 110 o’r ystadau mwyaf difreintiedig neu’r ystadau lle ceir llawer o droseddu yng Nghymru a Lloegr.
Nod y Rhaglenni Cynhwysiant yw lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith pobl ifanc yn y cymdogaethau lle mae’r Rhaglenni’n gweithredu. Caiff pobl ifanc eu cyfeirio at y Rhaglenni gan nifer o wahanol asiantaethau gan gynnwys Timau Troseddau Ieuenctid, yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau addysg lleol neu ysgolion, ac asiantaethau lleol eraill.
Mae’r rhaglen yn rhoi rhywle diogel i’r plant fynd iddo lle gallant ddysgu sgiliau newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gydag eraill a chael help gyda’u haddysg ac arweiniad o ran gyrfa. Mae’r gweithwyr a’r mentoriaid gwirfoddol yn cynnig esiampl gadarnhaol gan helpu i newid agweddau pobl ifanc tuag at addysg a throsedd.
Mae gan bob prosiect y nodau canlynol:
- ymwneud â chyfran uchel o’r grŵp craidd, yn enwedig yr aelodau hynny y tybir eu bod fwyaf tebygol o droseddu neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol
- mynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd yn dilyn asesiad
- cynyddu mynediad i wasanaethau prif ffrwd a gwasanaethau arbenigol ar gyfer y bobl ifanc dan sylw, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, hyfforddiant a gwaith
- atal y bobl ifanc sydd ar y rhaglen rhag dod i gysylltiad â’r System Cyfiawnder Ieuenctid, a lleihau cyfradd droseddu’r bobl ifanc sydd eisoes yn y system
- ymyrryd, a hynny nid yn unig ar lefel unigol, ond gyda chymunedau a theuluoedd (yn enwedig rhieni’r grŵp craidd).
Mae pob Rhaglen Gynhwysiant yn cael grant blynyddol gan yr YJB drwy’r Tîm Troseddau Ieuenctid, ac mae’n ofynnol iddi ddod o hyd i arian cyfatebol gan asiantaethau lleol i ychwanegu at hyn. Mewn sawl ardal, mae’r rhaglenni hefyd yn cael adnoddau gan sefydliadau eraill (megis ‘Y Fargen Newydd ar gyfer Cymunedau’), sy’n rhannu’r nod o gynorthwyo cymunedau i fynd i’r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gwelodd gwerthusiad cenedlaethol annibynnol, a gynhaliwyd yn dilyn tair blynedd gyntaf y Rhaglenni Cynhwysiant, bod:
- y cyfraddau arestio ar gyfer y 50 o bobl ifanc yr ystyrir eu bod fwyaf tebygol o droseddu ym mhob Rhaglen Gynhwysiant wedi gostwng gymaint â 65%
- o’r rheiny a oedd wedi troseddu cyn ymuno â’r rhaglen, cafodd 73% eu harestio am lai o droseddau ar ôl ymwneud â Rhaglen Gynhwysiant
- o’r rheiny nad oeddent wedi troseddu’n flaenorol ond a oedd mewn perygl o droseddu, nid aeth 74% ohonynt ymlaen i gael eu harestio ar ôl ymwneud â Rhaglen Gynhwysiant.
Cliciwch er mwyn gweld crynodeb neu adroddiad llawn y gwerthusiad o’r Rhaglen Gynhwysiant ar gyfer Pobl Ifanc.