Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Splash Cymru
Rhaglen o weithgareddau cadarnhaol ac adeiladol ar gyfer plant a phobl ifanc 13 i 17 oed yw Splash Cymru sy’n rhedeg yn ystod gwyliau’r ysgol yng Nghymru. Cafodd ei lansio yn 2002 (yn wreiddiol ar gyfer plant a phobl ifanc 9 i 17 oed), yn dilyn llwyddiant y rhaglenni Splash a Splash Extra yn Lloegr.
Caiff y rhaglen ei chyllido a’i rheoli gan yr YJB, ac mae’n cynnwys cynlluniau a gaiff eu rhedeg yn lleol mewn ardaloedd sydd â lefelau uchel o drosedd ac amddifadedd.
Mewn cymdogaethau lle mae’r rhaglen Splash yn gweithredu caiff pobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu eu cynnwys mewn ystod o weithgareddau ac ymyriadau priodol. Y nod yw eu rhwystro rhag troseddu ac ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol.
Adroddiad Terfynol 2007/08
Cliciwch ar y ddolen gyswllt i’w lawrlwytho [121Kb PDF, yn agor mewn ffenest newydd].
Splash Cymru 2007/08
Mae’r Timau Troseddau Ieuenctid canlynol yng Nghymru yn rhedeg cynlluniau Splash am bum diwrnod yn ystod gwyliau hanner tymor mis Mai 2007, mis Hydref 2007 a mis Chwefror 2008, am 10 diwrnod yn ystod gwyliau Pasg 2007 ac am 25 diwrnod yn ystod gwyliau haf 2007:
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerdydd – Tre Bute
- Caerdydd - Llanrhymni
- Sir Gaerfyrddin
- Conwy a Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Castell-nedd Port Talbot
|
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Tor-faen a Sir Fynwy
- Bro Morgannwg
- Wrecsam.
|