Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Partneriaethau Ysgolion Mwy Diogel
Mae’r rhaglen Partneriaethau Ysgolion Mwy Diogel yn ganlyniad i gynigion yr YJB i ddatblygu model plismona newydd ar gyfer ysgolion. Cafodd y rhaglen Partneriaethau Ysgolion Mwy Diogel ei lansio ym mis Medi 2002, ac mae’n darparu dull penodol iawn o fynd i’r afael â’r lefel uchel o drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a geir mewn rhai ysgolion ac oddi amgylch iddynt mewn rhai ardaloedd, sef troseddau sy’n cael eu cyflawni gan blant a phobl ifanc ac yn erbyn plant a phobl ifanc.
Bellach ceir rhyw 370 o blismyn wedi’u lleoli mewn ysgolion penodol mewn ardaloedd lle mae llawer o droseddau’n cael eu cyflawni ar y strydoedd. Menter ar y cyd yw hon rhwng yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES), yr YJB a Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO).
Mae gan yr holl ysgolion sy’n ymwneud â’r fenter Partneriaethau Ysgolion Mwy Diogel blismon wedi’i leoli yn eu hysgol. Mae’r plismyn hyn yn gweithio gyda staff yr ysgol ac asiantaethau lleol eraill i:
- leihau erledigaeth, ymddygiad troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn yr ysgol a’i chymuned
- gweithio gydag ysgolion ar ddulliau o ymdrin ag ymddygiad a disgyblaeth ar draws yr ysgol gyfan
- adnabod plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddioddef o ganlyniad i drosedd neu sydd mewn perygl o droseddu eu hunain, a gweithio gyda hwy
- sicrhau bod troseddwyr ifanc yn cael addysg lawn amser
- cynorthwyo plant a phobl ifanc fregus drwy gyfnodau o drawsnewid, megis symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd
- creu amgylchedd mwy diogel i blant ddysgu ynddo.
Mae cydweithio agos rhwng yr heddlu ac ysgolion yn hanfodol er mwyn cadw plant mewn addysg, eu cadw oddi ar y strydoedd a’u hatal rhag byw bywyd o droseddu.
Mae gwerthusiad o’r cyfnod peilot ac adroddiad gwerthuso llawn o’r Partneriaethau Ysgolion Mwy Diogel ar gael i’w lawrlwytho o’n hadran gyhoeddiadau.