Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Rhaglenni Rhianta
Mae rhaglenni rhianta yn darparu cyfle i rieni wella eu sgiliau o ran delio â’r ymddygiad sy’n peri bod eu plentyn mewn perygl o droseddu. Maent yn darparu cyngor un i un i rieni/gofalwyr yn ogystal â chymorth ymarferol i ymdrin ag ymddygiad eu plentyn, gosod ffiniau priodol a gwella cyfathrebu.
Drwy wella sgiliau rhianta’r rhieni/gofalwyr, mae’r rhaglenni hyn yn mynd i’r afael ag un o’r ffactorau risg pwysicaf sy’n gysylltiedig â phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu.
Gall y tîm troseddau ieuenctid lleol gynnig cyfle i rieni plentyn sydd wedi bod yn ymwneud â’r system cyfiawnder ieuenctid fynychu rhaglen rianta, os ystyrir y byddai hynny’n ddefnyddiol. Fodd bynnag, os nad yw’r rhieni/gofalwyr yn barod i gymryd rhan yn y rhaglen o’u gwirfodd gall y Tîm Troseddau Ieuenctid geisio gorchymyn rhianta sy’n gorfodi rhieni/gofalwyr plentyn mewn perygl i fynychu rhaglen o’r fath.