Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Mentora
Mae mentora yn paru gwirfoddolwr â pherson ifanc sydd mewn perygl o droseddu. Rôl y gwirfoddolwr yw cymell a chynorthwyo’r person ifanc sydd ar y cynllun drwy gynnal perthynas barhaus ag ef dros gyfnod estynedig. Mae’r berthynas yn seiliedig ar ymddiriedaeth ac ymrwymiad i gyfrinachedd a chydraddoldeb rhwng y mentor a’r person ifanc.
Rhaid i’r berthynas fod wedi’i strwythuro a rhaid bod ganddi amcanion sydd wedi’u nodi’n glir. Dylai’r amcanion hyn geisio helpu’r person ifanc i adnabod a chyflawni nodau addysgol, galwedigaethol neu gymdeithasol sy’n mynd i’r afael â’r ffactorau ym mywyd y person ifanc sy’n peri bod perygl iddo droseddu.