Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Mynd ati’n fwriadol i atal pobl ifanc rhag troseddu ac ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol
Un o’r ffyrdd gorau a mwyaf cost effeithiol o leihau troseddu ymhlith pobl ifanc yw eu hatal rhag mynd i drybini yn y lle cyntaf, drwy ddelio â’r problemau sy’n ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn cyflawni troseddau neu’n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol. Yn ôl adroddiad y Comisiwn Archwilio ar y system cyfiawnder ieuenctid ddiwygiedig, Youth Justice 2004: A Review of the Reformed Youth Justice System [yn agor mewn ffenest newydd], gallai ymyrryd yn gynnar i atal pobl ifanc rhag troseddu arbed mwy na £80 miliwn y flwyddyn i wasanaethau cyhoeddus.
Mae’r problemau sy’n gallu gwneud i berson ifanc ymddwyn mewn modd afreolus yn cynnwys diffyg addysg, perthynas wael rhwng aelodau’r teulu, bod ag aelodau o’r teulu neu gyfoedion sydd wedi troseddu, a chamddefnyddio sylweddau. Gweler gwaith ymchwil yr YJB Risk and Protective Factors am ragor o wybodaeth ar ffactorau risg a’r ffactorau eraill a all leihau’r perygl y bydd person ifanc yn troseddu.
Nod y rhaglenni canlynol yw delio â ffactorau risg, ennyn diddordeb pobl ifanc mewn pethau mwy cadarnhaol a chynyddu eu gwybodaeth. Cliciwch ar y dolenni cyswllt i gael gwybod mwy amdanynt.
Rydym hefyd yn cefnogi’r mentrau canlynol – cliciwch ar y dolenni cyswllt i fynd i’r gwefannau allanol hyn.