Rhieni, gofalwyr a theuluoedd
Gwyliadwriaeth
Mae cadw person ifanc dan wyliadwriaeth yn rhan o rai dedfrydau. Mae hyn yn gallu cynnwys tagio. Mewn achosion o’r fath, bydd angen gosod cyfarpar gwyliadwriaeth yng nghartref y person ifanc gyda chytundeb deiliad y tŷ, sef rhiant neu ofalwr y person ifanc gan amlaf. Fel rheol, mae’r cyfarpar angenrheidiol yn cael ei gysylltu â llinell ffôn ac mae’n cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y person ifanc gartref ar adegau penodol.
Os nad yw person ifanc sydd ar drwydded yn medru cydymffurfio â gofyniad y llys i wisgo tag, a hynny am fod deiliad y tŷ yn gwrthod gadael i’r awdurdodau osod cyfarpar gwyliadwriaeth yno, mae’n annhebygol y bydd y llety’n cael ei ystyried yn ‘addas’ dan y deddfau sy’n ymwneud â digartrefedd. Mae'n hynny'n golygu y bydd yn rhaid i’r person ifanc fyw rhywle arall.
Fodd bynnag, os yw’r person ifanc ar y Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys a bod yna broblem ynghylch gosod y cyfarpar yn ei gartref, bydd camau’n cael eu cymryd i sicrhau bod y person ifanc yn cael ei gadw dan wyliadwriaeth trwy ryw ddull arall. Er enghraifft, os nad oes yna linell ffôn, gellir gosod un i’w defnyddio gyda’r cyfarpar gwyliadwriaeth yn unig.
Os yw’n ofynnol i’ch plentyn gael ei osod dan ryw fath o wyliadwriaeth, bydd y tîm troseddau ieuenctid yn medru esbonio mwy ynghylch beth fydd hyn yn ei olygu. Bydd y tîm hefyd yn gallu esbonio’r manteision sydd ynghlwm wrth gytuno bod cyfarpar yn cael ei osod yn eich cartref.