Rhieni, gofalwyr a theuluoedd
Atal troseddau
Mae’n debyg mai’r ffordd orau o atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yw delio â’r pethau hynny y gwyddom eu bod yn gallu arwain at droseddu ymhlith pobl ifanc, gan wneud y mwyaf o’r pethau hynny y gwyddom eu bod yn lleihau’r perygl o droseddu, a hynny yn gynnar yn hanes y person ifanc. Cliciwch ar y ddolen gyswllt i ddarllen mwy am y rhaglenni atal sydd ar gael.
Gweler hefyd wefan Respect y Llywodraeth. Mae cefnogi rhaglenni atal a sicrhau bod rhieni’n cyflawni eu dyletswyddau yn ganolog i Gynllun Gweithredu Respect.
Rhaglenni a gorchmynion rhianta
Os yw eich plentyn yn dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid neu’n mynychu prosiect megis Panel Cynhwysiant a Chymorth ar gyfer Pobl Ifanc neu Raglen Gynhwysiant ar gyfer Pobl Ifanc, efallai y bydd y tîm troseddau ieuenctid lleol yn rhoi cyfle i chi fynychu rhaglen rianta o’ch gwirfodd, os ydych yn meddwl y byddai hynny’n ddefnyddiol. Fodd bynnag, os nad ydych yn barod i fynychu o’ch gwirfodd ac os yw eich tîm troseddau ieuenctid lleol yn meddwl bod gwir angen i chi fynd ar raglen rianta i’ch helpu i atal eich plentyn rhag troseddu, gall y Tîm ofyn am Orchymyn Rhianta. Bydd hynny’n golygu bod rhaid i chi fynychu’r rhaglen yn ôl y gyfraith.
Mae rhaglenni rhianta yn rhoi cyfle i rieni wella eu sgiliau o ran delio â’r ymddygiad sy’n peri bod eu plentyn mewn perygl o droseddu. Maent yn darparu cyngor un i un i rieni/gofalwyr, yn ogystal â chymorth ymarferol ar ymdrin ag ymddygiad eu plentyn, gosod ffiniau priodol a gwella cyfathrebu.
Drwy wella sgiliau rhianta rhieni/gofalwyr, mae’r rhaglenni hyn yn mynd i’r afael ag un o’r risgiau mwyaf sy’n gysylltiedig â phobl ifanc yn troseddu.