Rhieni, gofalwyr a theuluoedd
Wedi i’r person ifanc gael ei ryddhau o’r ddalfa
Mae’n bwysig bod person ifanc yn cael cymorth gan ei deulu a’i gymuned os yw am ymgartrefu’n ôl yn ei gymuned yn llwyddiannus. Mae pobl ifanc sy’n gadael y ddalfa yn llai tebygol o aildroseddu os ydynt yn cael cymorth cadarn gan y teulu.
Er mwyn helpu i leihau’r pwysau ar eich perthynas a’i gwneud yn haws i’ch plentyn fyw gartref, efallai y cewch gynnig cymorth megis gwasanaethau cyfryngu, cynadleddau grŵp teuluol, gwasanaethau cymorth rhianta, neu gymorth gan fentoriaid.
Cartref y teulu yw’r man gorau i berson ifanc fyw ynddo, ond lle nad yw hyn yn bosibl, bydd yn haws i’r person ifanc fyw’n annibynnol os yw’n parhau i gael cymorth gan aelodau pwysig o’r teulu.
Cliciwch ar y ddolen gyswllt i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ar ddiwedd dedfryd.