Rhieni, gofalwyr a theuluoedd
Cyfnod mewn dalfa
Ceir tri math o ddalfa lle gellir lleoli person ifanc, sef:
Mae’r YJB yn gyfrifol am leoli pobl ifanc mewn llety diogel priodol a gosod y safonau ar gyfer y cyfleusterau hyn. Pan fo plant a phobl ifanc yn gorfod treulio cyfnod mewn dalfa, rydym bob amser yn ceisio cynnal a chryfhau cysylltiadau’r bobl ifanc â’u teuluoedd trwy eu lleoli, pan allwn, mor agos i’w cartref ag sy’n bosibl. Rydym yn ystyried pellter yn ogystal â chysylltiadau cludiant a hwylustod cyrraedd y ganolfan neu’r sefydliad dan sylw.
Cliciwch ar y ddolen gyswllt i gael manylion cyswllt yr holl ganolfannau a sefydliadau diogel y mae’r YJB yn gweithio gyda hwy.
Gweler hefyd y dudalen ynghylch y cymorth a’r cyngor sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc sydd yn y ddalfa a’u teuluoedd.
Cymorth ar gyfer ymweliadau teuluol
Mae gennym hefyd gynllun cymorth ar gyfer ymweliadau teuluol, sy’n helpu teuluoedd i ymweld â’u plant yn wythnosol. Mae’r cynllun yn cynnwys ymweliadau â Chanolfannau Hyfforddi Diogel, cartrefi diogel i blant, Uned Carlford yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Warren Hill ac Uned Oswald yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Castingdon. Mae’r Gwasanaeth Carchardai yn rhedeg cynllun ar wahân ar gyfer teuluoedd pobl ifanc eraill sydd wedi’u lleoli mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc.
Mae cynllun yr YJB yn helpu i dalu costau un ymweliad yr wythnos (bob saith diwrnod) gan hyd at ddau ymwelydd 16 oed neu hŷn, ac unrhyw blant dan 16 oed y mae angen iddynt fod gyda’r oedolion. Os oes gan deulu blant ifanc nad oes modd mynd â hwy gyda’r teulu ar yr ymweliad, bydd yr YJB yn helpu i dalu costau gwarchodwr plant cofrestredig.
Rydym yn talu am y canlynol:
- pris tocyn dwyffordd ar gyfer teithio ar gludiant cyhoeddus, neu gostau tanwydd os ydych yn teithio mewn cerbyd preifat
- cyfraniad tuag at gostau aros dros nos yn achos taith hir nad oes modd ei hosgoi
- cyfraniad tuag at unrhyw brydau bwyd yr ydych yn eu cael os ydych oddi cartref am fwy na phum awr.
Dylid gwneud ceisiadau am gymorth ar gyfer ymweliadau â Sefydliadau Troseddwyr Ifanc, heblaw am Unedau Carlford ac Oswald, drwy’r Gwasanaeth Carchardai drwy ffonio 0845 3001 423.
Dylid gwneud ceisiadau am gymorth ar gyfer ymweliadau â Chanolfannau Hyfforddi Diogel drwy fonitor yr YJB sy’n ymdrin â’r Ganolfan Hyfforddi Ddiogel lle lleolir eich plentyn. Dylech ofyn i aelod o staff y Ganolfan Hyfforddi Ddiogel roi mwy o wybodaeth i chi pan fyddwch yn ffonio i drefnu ymweliad.
Dylid gwneud ceisiadau am gymorth ar gyfer ymweliadau â chartrefi diogel i blant ac Unedau Carlford ac Oswald drwy lenwi’r ffurflen isod a’i hanfon i swyddfa eich tîm troseddau ieuenctid cyn pen 28 diwrnod yn dilyn eich ymweliad. Os oes angen tocyn trên arnoch cyn mynd, cysylltwch â’ch tîm troseddau ieuenctid a byddant yn medru darparu un.
Cliciwch ar y ddolen gyswllt i lawrlwytho gwybodaeth bellach i berthnasau [yn agor mewn ffenest newydd; 65.5Kb] a ffurflen hawlio [yn agor mewn ffenest newydd; 49.5Kb] (ar hyn o bryd, dim ond yn Saesneg y mae’r dogfennau hyn ar gael).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cynllun yr YJB, cysylltwch ag Linda Bland drwy anfon e-bost at linda.bland@yjb.gov.uk neu drwy ffonio 020 7271 3140.
Cofiwch, dylech bob amser drefnu eich ymweliad ag unrhyw fath o sefydliad ymlaen llaw cyn teithio.
Dylid nodi bod y cynllun hwn yn cael ei adolygu ac y gallai newid.