Get Involved
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn rhoi cyfle i chi wneud rhywbeth defnyddiol ar ran eich cymuned leol. Ni fyddwch yn cael eich talu (heblaw am gostau teithio ac ati) ond byddwch yn cael boddhad o wybod eich bod wedi gwneud defnydd da o’ch amser a’ch egni. Efallai y byddwch yn cyfarfod â phobl newydd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill profiad gwerthfawr hefyd.
Beth sydd ei angen arnaf?
Nid oes rhaid i chi roi llawer o’ch amser, ac nid oes rhaid i chi fod yn rhyw oedran arbennig. Fodd bynnag, byddai’r sgiliau a’r rhinweddau canlynol yn ddefnyddiol.
- Sgiliau cyfathrebu da
- Dibynadwyedd
- Y gallu i barchu cyfrinachedd
- Y gallu i weithio yn rhan o dîm
- Sensitifrwydd
- Ymroddiad
- Hyblygrwydd
Pa gyfleoedd sydd i’w cael ym maes cyfiawnder ieuenctid?
Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid effeithiol yn gofyn am gyfraniad gan y gymuned leol, felly mae amryw o gyfleoedd gwirfoddoli i’w cael o fewn y system cyfiawnder ieuenctid, gan gynnwys y rolau canlynol. Cliciwch ar bob un i ddarllen mwy amdanynt.
- Oedolyn priodol
- Mentor
- Aelod o banel troseddwyr ifanc
- Rhaglen ddarllen ddwys Reading Matters
- Ynadon
- Gwirfoddoli yn y mannau diogel, gan gynnwys gwirfoddoli i fod yn aelod o fwrdd monitro annibynnol
- Busnesau
- Gwirfoddolwyr ifanc
- Cyfleoedd eraill mewn timau troseddau ieuenctid a chyfleoedd cyffredinol eraill
 phwy y dylwn i gysylltu os oes diddordeb gennyf?
Yn achos y rhan fwyaf o’r cyfleoedd gwirfoddoli sydd wedi’u rhestru yma, dylech gysylltu â’ch tîm troseddau ieuenctid lleol. Cliciwch ar y ddolen gyswllt am fanylion cyswllt y timau troseddau ieuenctid. Mae ffyrdd eraill o wirfoddoli yn cael eu rhestru ar y tudalennau perthnasol.
Beth ddylwn i ei ddisgwyl pan fyddaf yn gwirfoddoli?
Wrth wirfoddoli dylech ddisgwyl y canlynol:
- Eich bod yn cael hyfforddiant a goruchwyliaeth
- Bod eich cofnodion troseddol yn cael eu gwirio - bydd angen i chi ddatgelu gwybodaeth am unrhyw gollfarnau blaenorol a nodi p’un a ydych wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu (gweler gwefan y Swyddfa Cofnodion Troseddol am ragor o wybodaeth)
- Eich bod yn cael treuliau rhesymol am deithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith
- Eich bod yn cael gwybodaeth am faterion iechyd a diogelwch
- Bod angen i chi ddarparu tystlythyrau i ddangos eich bod yn addas i ymgymryd â’r gwaith.