Un ffordd o wirfoddoli yw dod yn ynad naill ai mewn llys oedolion neu mewn llys ieuenctid.
Mae ynadon yn dod o bob math o gefndiroedd a galwedigaethau. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol na gwybodaeth o’r gyfraith arnoch, ond mae angen:
- synnwyr cyffredin a gonestrwydd personol
- gwybodaeth dda am bobl a’ch cymuned leol
- y gallu i wrando ar bob ochr o ddadl a chyfrannu at benderfyniadau teg a rhesymol
- eich bod yn ddibynadwy ac yn barod i roi o’ch amser.
Ni all llys ynadon ddelio â phobl ifanc dan 18 oed, oni bai eu bod yn cael eu rhoi ar brawf gydag oedolyn. Felly, y llys ieuenctid sy’n ymdrin â’r rhan fwyaf o’r achosion sy’n ymwneud â phobl ifanc dan 18 oed. Mae hon yn adran o’r llys ynadon, ac yn aml fe’i lleolir yn yr un adeilad.
Byddai’n rhaid i chi hyfforddi ac ennill profiad mewn llys ynadon i oedolion cyn mynd ati i hyfforddi’n benodol i weithio mewn llys ieuenctid. Byddai’r hyfforddiant yn cynnwys::
- gweinyddu cyfiawnder
- gwneud penderfyniadau ynglŷn â chwestiynau cyfreithiol, arfer a gweithdrefn
- dedfrydu pobl ifanc sydd wedi troseddu yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r Ddeddf Hawliau Dynol, a gan ystyried lles y plentyn.
Fel rheol, mae ynadon yn eistedd ar ffurf panel o dri gydag un ohonynt yn gadeirydd â chyfrifoldeb am gyfarch y llys.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar: