Mae ystod o swyddi ar gael ym maes cyfiawnder ieuenctid.
Mae timau troseddau ieuenctid yn cynnwys aelodau o staff sydd yn aml yn gweithio mewn meysydd arbenigol gwahanol, megis llety, camddefnyddio sylweddau neu addysg a hyfforddiant.
Mae swyddogion cyfiawnder ieuenctid eraill yn goruchwylio pobl ifanc sydd wedi cael gorchmynion llys ac yn eu helpu i roi’r gorau i droseddu. Maent yn cyflawni amrywiaeth o dasgau, sy’n amrywio o asesu anghenion pobl ifanc, a’r risg y maent yn ei pheri, i helpu’r bobl ifanc i sylweddoli’r effaith y mae eu troseddau yn ei chael ar y dioddefwyr.
Gallech hefyd weithio yn un o’r tri math o sefydliad sy’n rhan o’r mannau diogel, lle mae’r cyfleoedd yn cynnwys bod yn swyddog cadwraeth neu’n swyddog gofal.
Gallech edrych ar y swyddi sydd ar gael ar wefan Y Gwasanaeth Carchardai [mae’r ddolen gyswllt yn agor ffenestr newydd] hefyd.
Cadwch lygad am bob math o swyddi cyfiawnder ieuenctid sy’n cael eu hysbysebu yn y papurau lleol a chenedlaethol, mewn cyhoeddiadau arbenigol, ac ar wefannau awdurdodau lleol [mae’r ddolen gyswllt yn agor ffenestr newydd].
Mae profiad o wirfoddoli yn gallu bod yn ffordd werthfawr iawn o ddarganfod a fyddech chi’n addas ar gyfer swydd yn ymwneud â chyfiawnder ieuenctid. Mae gwirfoddoli yn rhoi’r cyfle i chi gyfarfod â phobl ifanc sy’n troseddu a gweld sut y mae staff mewn rolau tebyg yn gwneud eu gwaith.
Hyfforddiant
Rydym wedi datblygu ystod o gymwysterau yn ymwneud â chyfiawnder ieuenctid er mwyn cefnogi gwaith y bobl broffesiynol sy’n gweithio ym maes cyfiawnder ieuenctid. Cliciwch ar y ddolen gyswllt er mwyn darllen am y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid.