Cyfleusterau a gaiff eu rhedeg gan y Gwasanaeth Carchardai a’r sector preifat yw Sefydliadau Troseddwyr Ifanc a gellir anfon pobl ifanc rhwng 15 a 21 oed iddynt. Mae’r YJB ond yn gyfrifol am leoli pobl ifanc dan 18 oed mewn llety diogel. O ganlyniad, mae rhai o’r sefydliadau hyn yn gallu derbyn pobl ifanc hŷn na’r rheiny a gaiff eu cadw mewn canolfannau hyfforddi diogel a chartrefi diogel i blant. Mae’r YJB yn comisiynu ac yn prynu lleoedd ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed (h.y. pobl ifanc 15 i 17 oed), sy’n cael eu cadw mewn unedau sy’n hollol ar wahân i’r rheiny ar gyfer pobl ifanc 18 i 21 oed.
Cipolwg ar sefydliad troseddwyr ifanc
| Maint yr unedau |
Unedau ar gyfer bechgyn / dynion ifanc – 28-360 o bobl ifanc, gyda lle i 30-60 o bobl ym mhob adain
Unedau ar gyfer merched / menywod ifanc – 16-24 o leoedd |
| Staffio |
3–6 o swyddogion i bob adain |
| Hyfforddiant staff |
Hyfforddiant swyddog carchar, ynghyd â Rhaglen Ymwybyddiaeth Ieuenctid i Staff (JASP) |
At ei gilydd, mae’r gymhareb staff/pobl ifanc yn is mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc nag ydyw mewn Canolfannau Hyfforddi Diogel a chartrefi diogel i blant, ac mae lle i fwy o bobl ifanc ynddynt. O ganlyniad, maent yn llai abl i ddiwallu anghenion unigol pobl ifanc ac at ei gilydd ystyrir eu bod yn anaddas ar gyfer pobl ifanc fregus sydd â ffactorau risg uchel, megis anghenion o ran iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.
Arolygiadau
Mae adroddiadau arolygu Sefydliadau Troseddwyr Ifanc ar gael ar wefan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi [yn agor mewn ffenest newydd].
O droi at wefan y Swyddfa Gartref, gallwch gael gafael ar arolygon blynyddol, a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Carchardai ei Mawrhydi, o bobl ifanc dan 18 oed a gaiff eu cadw mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc dan gontract gyda’r YJB: Young People in Custody (2004-2006): An analysis of children's experiences of prison [yn agor mewn ffenest newydd].