Canolfannau sydd wedi’u hadeiladu’n benodol ar gyfer troseddwyr ifanc hyd at 17 oed yw Canolfannau Hyfforddi Diogel. Cânt eu rhedeg gan weithredwyr preifat yn unol â chontractau sy’n pennu gofynion gweithredu manwl. Ceir pedair Canolfan Hyfforddi Ddiogel yn Lloegr.
- Oakhill yn Milton Keynes, Swydd Bedford
- Hassockfield yn Consett, Swydd Durham
- Rainsbrook yn Rugby, Swydd Northampton
- Medway yn Rochester, Caint
Cipolwg ar ganolfan hyfforddi ddiogel
| Maint yr unedau |
Unedau’n cynnwys 58–87 o leoedd, gyda mwyafswm o 8 lle i bob tŷ o fewn y ganolfan hyfforddi ddiogel |
| Staffio |
Cymhareb uchel o ran nifer y staff i nifer y bobl ifanc, ond yn is na chartrefi diogel i blant |
| Hyfforddiant staff |
Ceir rhai gweithwyr cymdeithasol cymwys. At hynny, mae’r contractau’n mynnu bod yr holl staff yn cwblhau rhaglen hyfforddiant naw wythnos o hyd a nodwyd gan yr YJB |
Mae canolfannau hyfforddi diogel yn gartref i bobl ifanc fregus sy’n cael eu dedfrydu i dreulio cyfnod mewn dalfa neu sy’n cael eu remandio i lety diogel. Maent yn darparu amgylchedd diogel lle gellir eu haddysgu a’u hailsefydlu. Maent yn wahanol i sefydliadau troseddwyr ifanc yn yr ystyr bod ganddynt fwy o staff i bob troseddwr ifanc ac maent yn llai o faint. Mae hyn yn golygu ei bod yn haws diwallu anghenion unigolion. Ar yr un pryd, maent yn ddigon mawr i fedru darparu ystod o gyfleusterau.
Mae’r cyfundrefnau mewn Canolfannau Hyfforddi Diogel yn adeiladol ac yn canolbwyntio ar addysg. Maent yn darparu rhaglenni wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer troseddwyr ifanc sy’n rhoi cyfle iddynt ddatblygu fel unigolion, a fydd yn ei dro yn eu helpu i beidio ag aildroseddu. Darperir addysg ffurfiol i’r rhai dan hyfforddiant am 25 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn.
Caiff pob gwasanaeth sy’n gysylltiedig â gweithredu Canolfan Hyfforddi Ddiogel ei ddarparu ar y safle. Mae hyn yn cynnwys yr holl addysg a hyfforddiant, gofal iechyd cynradd, gofal deintyddol, a gwasanaethau i fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol y person ifanc (gan gynnwys cyfraniad gan weithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd meddwl a gofal cymdeithasol).
Er mwyn helpu gyda’r gwaith o ailsefydlu’r person ifanc yn y gymuned, mae gan Ganolfannau Hyfforddi Diogel dîm penodol o bobl sy’n gweithio i feithrin cysylltiadau â’r gymuned y mae’r person ifanc yn byw ynddi. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth greu cyfleoedd ar gyfer addysg a gwaith i’r person ifanc pan gaiff ei ryddhau.
Arolygiadau Canolfannau Hyfforddi Diogel
Gallwch weld arolygiadau blynyddol y Canolfannau Hyfforddi Diogel, o fis Hydref 2003 ymlaen, ar wefan CSCI [yn agor mewn ffenest newydd]. Gellir gweld arolygiadau a gafodd eu cynnal cyn mis Hydref 2003 gan ddefnyddio’r cyfleuster chwilio ar wefan yr Adran Iechyd [yn agor mewn ffenest newydd].