Mae’r ffigyrau hyn yn dangos nifer y plant a’r bobl ifanc sydd yn y ddalfa, a chânt eu cyhoeddi’n fisol. Rydym hefyd wedi darparu ffigyrau sy’n cynnwys pobl ifanc 18 ac 19 oed lle bo hynny’n bosibl. Er mai am bobl ifanc dan 18 oed yn unig y mae’r YJB yn gyfrifol, mae’n bosibl y bydd person ifanc sydd wedi’i ddedfrydu i’r ddalfa yn cael ei ben-blwydd yn 18 oed yn ystod ei ddedfryd. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n bosibl y bydd y person ifanc yn cael aros yn un o’r mannau diogel ar gyfer pobl ifanc, gan y gallai symud y person ifanc i garchar oedolion amharu’n ddiangen ar ei ddedfryd a’r broses ailsefydlu.
Mae’r wybodaeth ynghylch canolfannau hyfforddi diogel a chartrefi diogel i blant yn dod o gronfa ddata SACHS yr YJB. Caiff gwybodaeth ynghylch y bobl ifanc sy’n cael eu cadw mewn sefydliadau troseddwyr ifanc ei darparu’n bennaf gan y Gwasanaeth Carchardai.
Tueddiadau ym Mhoblogaeth y Mannau Diogel 2000-2009

Mae’r llinell goch yn cynrychioli cyfanswm y boblogaeth dan 18 oed. Mae’r llinell las doredig yn cynnwys pobl ifanc 18 ac 19 oed.
Rhagfyr 2009
Poblogaeth y Mannau Diogel ar gyfer 2008-09

Mae’r llinell goch yn cynrychioli cyfanswm y boblogaeth dan 18 oed. Mae’r llinell las doredig yn cynnwys pobl ifanc 18 ac 19 oed.
Cyfanswm y nifer sydd yn y ddalfa: 2,203 (pobl dan 18 oed)
Dylid nodi bod y ffigyrau isod yn cynrychioli’r boblogaeth dan 18 yn unig.
Poblogaeth yn ôl rhyw
| Merched |
134 |
| Bechgyn |
2,069 |
Poblogaeth yn ôl y math o gyfleuster
Poblogaeth yn ôl dedfrydau
(cliciwch ar y ddedfryd er mwyn cael mwy o wybodaeth)
Cliciwch ar y ddolen gyswllt i lawrlwytho graffiau o'r ffigyrau [88Kb PDF; yn agor mewn ffenest newydd] hyn a rhai misoedd a blynyddoedd blaenorol.