Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Cyfnod yn y ddalfa
Mannau diogel ar gyfer plant a phobl ifanc
Lle nad yw’r un opsiwn arall yn briodol oherwydd difrifoldeb y trosedd, hanes y troseddwr neu’r risg i’r cyhoedd, bydd pobl ifanc sy’n troseddu yn cael eu dedfrydu i dreulio cyfnod mewn dalfa. Mae’r adran hon yn esbonio sut y mae’r mannau diogel yn gweithredu. Cliciwch ar y ddolen gyswllt os hoffech wybod yn benodol am waith yr YJB o fewn y mannau diogel.
Y Gorchymyn Cadw a Hyfforddi yw’r brif ddedfryd sy’n cael ei defnyddio wrth ddedfrydu pobl ifanc i dreulio cyfnod mewn dalfa, ond ar gyfer troseddau mwy difrifol bydd person ifanc yn cael ei ddedfrydu dan Adran 90/91. Cliciwch ar y ddolen gyswllt os hoffech gael mwy o wybodaeth ynghylch dedfrydau.
Ceir tri math o le lle gellir cadw person ifanc. Gyda’i gilydd, mae’r canlynol yn ffurfio mannau diogel ar gyfer plant a phobl ifanc:
Wrth ddod i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid mae pob person ifanc yn cael ei asesu, a chanlyniadau’r asesiad hwn sy’n penderfynu ym mha fath o sefydliad diogel y caiff y person ifanc ei leoli. Cliciwch ar y ddolen gyswllt os hoffech wybod mwy am y broses asesu, a sut y caiff pobl ifanc eu lleoli mewn dalfeydd.
Cliciwch ar y ddolen gyswllt i gael manylion cyswllt yr holl sefydliadau diogel yr ydym yn gweithio â hwy.
Mae ein tudalen cyngor i bobl ifanc sydd yn y ddalfa yn rhestru’r llinellau cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sy’n treulio cyfnod mewn dalfa neu sydd newydd gael eu rhyddhau.