Mae Llysoedd y Goron yn delio ag oedolion yn ogystal â phobl ifanc. Rôl Llys y Goron yw delio â’r materion troseddol mwyaf difrifol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- achosion a anfonir i Lys y Goron o lysoedd ynadon neu lysoedd ieuenctid oherwydd difrifoldeb y trosedd – dim ond yn Llysoedd y Goron y gellir rhoi rhai troseddau ar brawf, gelwir y rhain yn droseddau ‘ditiol’
- achosion a anfonir i Lys y Goron oherwydd bod y trosedd y rhoddir y person ifanc ar brawf amdano yn un y gellir cynnal gwrandawiad ar ei gyfer naill ai mewn llys ynadon neu yn Llys y Goron
- achosion a anfonir i Lys y Goron o lysoedd ynadon neu lysoedd ieuenctid er mwyn dedfrydu
- apeliadau yn erbyn dedfrydau a roddwyd mewn llysoedd ynadon neu lysoedd ieuenctid.
Mae cofiaduron a barnwyr cylchdaith Llys y Goron yn gwrando ar dreialon ac apeliadau ac yn penderfynu ar ddedfrydau yn Llysoedd y Goron.