Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Ar ddiwedd dedfryd
Er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw berson ifanc sydd wedi treulio cyfnod mewn dalfa yn medru ymgartrefu’n ôl yn ei gymuned, rhaid i wahanol asiantaethau weithio gyda’i gilydd i ganolbwyntio ar bob agwedd ar fywyd y person ifanc a sicrhau ei fod yn medru cael y gwasanaethau prif-ffrwd a’r gwasanaethau arbenigol y mae ganddo hawl iddynt. Dylai’r broses gychwyn cyn i berson ifanc fynd i’r ddalfa, a dylai barhau wedi i’r ddedfryd ddod i ben.
Mae amrywiol raglenni ailsefydlu ar gael i helpu pobl ifanc i gael eu traed tanynt wedi iddynt adael y ddalfa, gan gynnwys y rhaglenni y cyfeirir atynt isod.
Rhaglen sy’n cael ei gweithredu dan y Timau Troseddau Ieuenctid yw’r Ddarpariaeth Ailsefydlu ac Ôl-ofal (RAP). Mae’r rhaglen yn gweithio gyda phobl ifanc â phroblemau’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, a hynny yn y ddalfa ac yn y gymuned.
Mae Nacro yn gweithredu gwasanaeth o’r enw Resettlement Plus [yn agor mewn ffenest newydd]. Mae’r gwasanaeth ar gael i bob troseddwr, gan gynnwys y rheiny sydd yn y ddalfa, yn gadael y ddalfa neu yn y gymuned. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig cymorth i deuluoedd troseddwyr a’r ymarferwyr sy’n gweithio gyda throseddwyr. Mae’r gwasanaeth yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar ystod o faterion yn ymwneud ag ailsefydlu, gan gynnwys tai, budd-daliadau, hyfforddiant a gwaith.
Yn ogystal, ceir RESET [yn agor mewn ffenest newydd], sef prosiect â mwy na 50 o bartneriaid gan gynnwys yr YJB, sydd â’r nod o wella’r broses ailsefydlu ar gyfer troseddwyr ifanc.