Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Asesu
Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod gan blant a phobl ifanc sy’n troseddu amryw o anghenion y mae’n rhaid eu nodi a mynd i’r afael â hwy er mwyn lleihau’r risg eu bod yn troseddu neu’n aildroseddu. Mae timau troseddau ieuenctid yn defnyddio ystod o asesiadau i nodi anghenion pobl ifanc, y risg y maent yn ei pheri i’w hunain ac i bobl eraill, a’r tebygolrwydd y byddant yn troseddu neu’n aildroseddu.
Yn rhan o’r asesiadau a ddefnyddir gan dimau troseddau ieuenctid mae disgwyl iddynt siarad â’r person ifanc, ei rieni a’r gwasanaethau eraill sydd wedi gweithio gydag ef neu’i deulu, a chasglu gwybodaeth ynghylch ei:
- hanes troseddol, os yw eisoes wedi troseddu
- addysg
- iechyd
- teulu
- amgylchedd
- agweddau.
Mae timau troseddau ieuenctid yn defnyddio’r wybodaeth o’r asesiadau hyn i amddiffyn y cyhoedd a chreu rhaglenni o weithgareddau ar gyfer y person ifanc sy’n ymateb i’w anghenion ac yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd yn troseddu. Mae’r timau troseddu ieuenctid yn adolygu’r asesiadau hyn yn gyson ac yn eu diweddaru pan fydd amgylchiadau person ifanc yn newid.
Pobl ifanc sy’n troseddu
Ar gyfer pobl ifanc sydd wedi troseddu, mae’r tîm troseddau ieuenctid yn defnyddio asesiad o’r enw Asset. Rhaid cwblhau Asset gyda phob person ifanc sydd wedi cael Rhybudd Terfynol, neu sy’n disgwyl cael gorchymyn cymunedol neu orchymyn cadw. Mae’r tîm troseddau ieuenctid yn defnyddio’r wybodaeth o’r asesiad i:
- wneud argymhelliad i’r llys ynghylch dedfryd addas
- nodi’r gweithgareddau y bydd gofyn i’r person ifanc eu cwblhau yn rhan o’i ddedfryd
- nodi p’un a oes angen gwneud gwaith gyda rhieni/gofalwyr y person ifanc
- nodi sut i amddiffyn y cyhoedd.
Os caiff person ifanc ei ddedfrydu neu’i remandio i’r ddalfa, caiff y wybodaeth a gesglir gan Asset ei defnyddio gan y tîm troseddau ieuenctid i asesu p’un a yw’r person ifanc yn fregus. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio gan yr YJB i benderfynu ar y math o sefydliad y caiff y person ifanc ei leoli ynddi. Os hoffech wybod mwy ynghylch y ffactorau sy’n penderfynu p’un a yw person ifanc yn fregus neu’r broses a ddefnyddir i benderfynu ar y math o sefydliad y caiff ei leoli ynddo, ewch i’r dudalen Lleoli Plant a Phobl Ifanc mewn Dalfeydd.
Pobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu
Mae timau troseddau ieuenctid yn gweithio fwyfwy gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi’u nodi yn rhai sydd mewn perygl o droseddu, er mwyn helpu i’w hatal rhag cael eu sugno i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid. Ar gyfer y bobl hyn, mae’r tîm troseddau ieuenctid yn defnyddio asesiad o’r enw Onset, a ddefnyddir gan bob rhaglen atal troseddau. Caiff Onset ei ddefnyddio i nodi p’un a fyddai person ifanc ar ei ennill o gymryd rhan mewn rhaglen atal troseddau, yn ogystal â nodi ei anghenion a’r ffordd orau o ymateb iddynt er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y bydd yn troseddu.
Cliciwch ar y ddolen gyswllt i ddarllen gwerthusiad o ddilysrwydd a dibynadwyedd asesiadau Asset.