Y System Cyfiawnder Ieuenctid
Mae’r rhan hon o’r wefan yn disgrifio gwahanol rannau’r system cyfiawnder ieuenctid a’r modd y mae’n gweithio.
Cliciwch ar y ddolen gyswllt i gamu drwy’r system a gweld beth a phwy sy’n ymwneud â phob cam.
Darllenwch am y gwahanol ddedfrydau, gorchmynion a chytundebau y gall plentyn neu berson ifanc eu cael o fewn y system cyfiawnder ieuenctid.
Dylai rhieni sy’n dymuno gwybod mwy am faterion cyfiawnder ieuenctid droi at ein hadran newydd ar gyfer rhieni, gofalwyr a theuluoedd. Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am raglenni rhianta a’r cymorth ariannol sydd ar gael i ymweld â’ch plentyn yn y ddalfa. Yn ogystal, mae’n egluro beth y gallwch ei ddisgwyl os yw’n ofynnol i’ch plentyn gael ei oruchwylio.
Os ydych wedi dioddef o ganlyniad i drosedd gan blentyn neu berson ifanc, mae gennym adran newydd ar eich cyfer chi, sy’n cynnwys gwybodaeth am y Côd Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau.
Os ydych yn ystyried gweithio neu wirfoddoli yn y system cyfiawnder ieuenctid trowch at y tudalennau ar ein gwefan sy’n egluro sut y gallwch wneud hynny.
Dylai plant a phobl ifanc, neu’r rheiny sy’n gweithio gyda hwy, ddarllen y wefan Rizer, sy’n esbonio sut mae’r system yn gweithio o safbwynt person ifanc. Mae’r wefan hon yn cynnwys astudiaethau achos a geirfa.
Y System
Cliciwch ar y dolenni
cyswllt i fynd trwy’r
system cyfiawnder ieuenctid a gweld beth a phwy sy’n gysylltiedig â phob cam.
Manylion cyswllt y
TTIau
Dewch o hyd i’ch tîm troseddau ieuenctid lleol.
Y Ddalfa - Ffigyrau a Phatrymau
Mae’r ffigyrau hyn yn dangos nifer y plant a’r bobl ifanc sydd yn y ddalfa, a chânt eu cyhoeddi’n fisol.