Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB)
Gweithio gyda dioddefwyr
Mae dioddef o ganlyniad i drosedd yn gallu golygu profi niwed neu golled, ac mae hynny’n beth trawmatig sy’n peri gofid a phoen. Wrth iddynt ymwneud â’r system cyfiawnder ieuenctid, mae angen i ddioddefwyr gael cefnogaeth a gwybodaeth ac mae angen iddynt deimlo’n fodlon. Bydd mynd i’r afael â’u hanghenion yn helpu i wella hyder y cyhoedd yn y system cyfiawnder ieuenctid.
Dylai dioddefwyr gael gwasanaeth o safon uchel gan y Timau Troseddau Ieuenctid yn unol â’r Côd Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau [yn agor mewn ffenest newydd], a roddwyd ar waith ym mis Ebrill 2006. Mae’r YJB wedi cyhoeddi crynodeb o’r côd hwn i helpu Timau Troseddau Ieuenctid i gydymffurfio ag ef. Mae’r côd yn nodi lefel y gwasanaeth y mae’n ofynnol i ystod o wahanol sefydliadau ei ddarparu i ddioddefwyr. Does dim disgwyl i un sefydliad unigol gynorthwyo pob dioddefwr, ond mae’r côd yn ceisio sicrhau bod cymorth priodol ac amserol ar gael i bawb sydd wedi dioddef o ganlyniad i drosedd, a bod y cymorth hwnnw yn addas i’w hanghenion unigol.
Cyfiawnder adferol
Mae cyfiawnder adferol yn golygu bod y rheiny y mae trosedd yn effeithio’n uniongyrchol arnynt, sef y dioddefwr, y troseddwr ac aelodau o’r gymuned, yn cael mwy o gyfle i gyfathrebu a chytuno ar sut i ddelio â’r trosedd a’i ganlyniadau nag y byddent dan y system gyfiawnder draddodiadol. Mae ymchwil a gomisiynwyd gan yr YJB yn dangos bod dioddefwyr sy’n cymryd rhan mewn prosesau adferol yn profi lefelau uchel o fodlonrwydd; ond rhaid i ddioddefwyr gael cyfle i wneud dewis agored, rhydd a deallus ynghylch p’un a ydynt am gymryd rhan a sut i wneud hynny.
Mae ffocws yr YJB yn ddeublyg:
- bodloni’r dioddefwyr – lleihau ofn troseddau a sicrhau bod y dioddefwyr yn teimlo bod y troseddwr wedi “talu’n ôl” am y niwed a gafodd ei wneud iddynt
- ymwneud â’r person ifanc i sicrhau ei fod yn ymwybodol o ganlyniadau ei weithredoedd. Mae disgwyl i’r person ifanc ymrwymo i gynllun sydd wedi’i lunio i wneud iawn am ei drosedd a lleihau’r risg ei fod yn aildroseddu.
Mae gwaith yr YJB bob amser wedi’i seilio ar yr egwyddorion o gael pobl ifanc i wneud iawn am eu hymddygiad troseddol, ac ymgynghori â phobl sy’n dioddef o ganlyniad i droseddau a gyflawnwyd gan bobl ifanc. Rydym yn gosod targedau ar gyfer Timau Troseddau Ieuenctid i ddatblygu dulliau adferol a sicrhau lefel uchel o fodlonrwydd ymhlith dioddefwyr.
Rydym wedi creu’r adnodd Key Elements of Effective Practice – Restorative Justice i helpu ymarferwyr, rheolwyr a phartneriaethau strategol i ddefnyddio prosesau cyfiawnder adferol.
Rydym hefyd wedi datblygu a gweithredu’r prosiect Cyfiawnder Adferol mewn Ysgolion, ac mae ymchwil wedi dangos bod y prosiect hwn yn gymorth gyda’r canlynol:
- gwella ymddygiad disgyblion
- datrys anghydfod
- lleihau’r ofn o fwlio a gwrthdaro pellach
- sicrhau bod pobl ifanc a gafodd eu gwahardd yn cael eu hailgyflwyno i’r ysgol.
Mae’r YJB yn gweithio gyda Thimau Troseddau Ieuenctid, yr heddlu a’r Llywodraeth i weld a oes modd i gyfiawnder adferol chwarae rhan fwy effeithiol yn y gwaith o reoli cynlluniau atal troseddau a chynlluniau ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl ifanc, a lleihau’r defnydd diangen o’r llys neu geryddon a rhybuddion terfynol.