Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB)
Atal Troseddau
Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau troseddu ymhlith pobl ifanc yw eu hatal rhag mynd i drybini yn y lle cyntaf.
Ceir rhai ffactorau sy’n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd plant neu bobl ifanc yn cyflawni troseddau neu’n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol. Mae’r ffactorau risg hyn yn cynnwys:
- diffyg addysg, neu fod y plentyn neu’r person ifanc yn cael ei eithrio o’r system addysg
- perthynas wael rhwng aelodau’r teulu
- bod ag aelodau o’r teulu neu gyfoedion sydd wedi troseddu
- camddefnyddio sylweddau.
Mae’r YJB wedi datblygu a chyllido ystod o gynlluniau ymyrraeth gynnar a chynlluniau i gyfeirio sylw pobl ifanc at bethau mwy cadarnhaol. Mae’r cynlluniau hyn yn ceisio mynd i’r afael â’r math o broblemau a restrir uchod, sy’n bodoli ym mywyd person ifanc ac sy’n gallu ei arwain i droseddu neu ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol. Nod y rhaglenni yw adnabod diddordebau pobl ifanc o gyfnod cynnar a manteisio arnynt, gan gynyddu eu gwybodaeth. Y gobaith yw y bydd hynny’n cyfeirio’u sylw at bethau heblaw troseddu. Mae rhaglenni o’r fath yn cynnwys:
- y Rhaglen Gynhwysiant ar gyfer Pobl Ifanc, sy’n gweithio gyda’r bobl ifanc hynny y mae’r perygl mwyaf iddynt droseddu ac yn cynnal gweithgareddau cadarnhaol sy’n medru agor cyfleoedd newydd iddynt
- Paneli Cynhwysiant a Chymorth ar gyfer Pobl Ifanc, sy’n helpu Timau Troseddau Ieuenctid ac asiantaethau lleol a chenedlaethol eraill i adnabod y problemau sy’n effeithio ar bob person ifanc a mynd i’r afael â hwy mewn modd penodol a phwrpasol.
Mae rhai cynlluniau’n defnyddio egwyddorion cyfiawnder adferol, er mwyn helpu pobl ifanc i ddeall yr effaith y mae troseddu’n ei chael a dysgu pa ymddygiad sy’n dderbyniol i’w cyfoedion ac i’r gymuned.
Drwy ddylanwadu ar bolisi, nodi arfer effeithiol a chomisiynu ymchwil ar y ffactorau risg a’r modd y dylid mynd i’r afael â hwy, mae’r YJB yn gwneud ei safbwynt yn glir. Mae’r YJB o’r farn bod anghenion pobl ifanc o ran lles, boed y rheiny’n ymwneud ag addysg neu’n ymwneud â llety, yn effeithio’n uniongyrchol ar y tebygolrwydd y byddant yn troseddu neu’n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol.