Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB)
Monitro a gwella arfer
Mae’r YJB yn gyfrifol am fonitro perfformiad y system cyfiawnder ieuenctid. Rydym yn gwneud hyn er mwyn llywio a dylanwadu ar y modd y mae’r system cyfiawnder ieuenctid yn gweithredu, ac er mwyn nodi a hyrwyddo arferion a all helpu i atal plant a phobl ifanc rhag troseddu a helpu i amddiffyn y cyhoedd. Mae gwaith monitro hefyd yn rhoi’r dystiolaeth y mae ei hangen arnom er mwyn gallu cynghori’r Ysgrifennydd Cartref a gweinidogion eraill.
Monitro’r mannau diogel
Rydym yn monitro perfformiad y mannau diogel drwy gyfrwng ein Fframwaith Monitro Cyfundrefnau Effeithiol. Mae’n canolbwyntio ar bedwar prif faes:
- diogelwch (pa mor ddiogel yw pob sefydliad ar gyfer y bobl ifanc a’r staff)
- rheoli ymddygiad (sut y mae pob sefydliad yn ymdrin ag ymddygiad anodd, ac yn gwobrwyo ymddygiad da)
- diwrnod llawn a phwrpasol (sut y mae’r bobl ifanc yn treulio eu hamser)
- rheoli achosion (sut y caiff dedfryd pob person ifanc ei chynllunio er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i’r person ifanc fyw bywyd heb droseddu ar ôl cael ei ryddhau).
Caiff perfformiad pob sefydliad diogel ei fonitro gan un o fonitoriaid perfformiad yr YJB, sy’n gweithio gyda’r sefydliad i sicrhau ei fod yn bodloni ein safonau ac yn cydymffurfio â’i gontract. Gall ein monitoriaid gynnig cymorth i wella perfformiad hefyd.
Monitro Timau Troseddau Ieuenctid
Mae ein timau rhanbarthol yn monitro perfformiad timau troseddau ieuenctid ac yn eu helpu i wella lle bo angen. Rydym yn monitro perfformiad y timau troseddau ieuenctid drwy’r Fframwaith Perfformiad ar gyfer Timau Troseddau Ieuenctid. Mae’r fframwaith wedi’i gynllunio i ddarparu asesiad cynhwysfawr o berfformiad tîm troseddau ieuenctid yn erbyn ystod o fesurau, gan gynnwys:
Lle mae’r fframwaith yn amlygu perfformiad gwael, bydd ein timau rhanbarthol yn gweithio gyda’r tîm troseddau ieuenctid i fynd i’r afael â’r mater.
Gwella arferion
Mae’r YJB wedi ymrwymo i wella arferion mewn timau troseddau ieuenctid ac yn y mannau diogel drwy nodi a hyrwyddo arfer effeithiol. Wrth arfer effeithiol, rydym yn golygu arfer sydd wedi’i werthuso ac y profwyd ei fod yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn troseddu neu’n aildroseddu.
Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi datblygu Agweddau Allweddol ar Arfer Effeithiol, sy’n disgrifio nodweddion gwasanaethau effeithiol ac yn cynorthwyo gyda’r gwaith o nodi anghenion staff o ran dysgu a datblygu. Er mwyn sicrhau bod yr agweddau allweddol hyn yn cael eu gweithredu, rydym wedi datblygu’r Fframwaith Sicrhau Ansawdd, ac rydym yn dymuno gweld y fframwaith hwn yn cael ei ddefnyddio ar draws yr holl wasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Mae’r fframwaith yn gofyn i wasanaethau asesu eu perfformiad eu hunain yn erbyn yr agweddau allweddol ar arfer effeithiol a datblygu cynlluniau i’w wella lle bo angen hynny.
Er mwyn darparu cymorth pellach i wasanaethau cyfiawnder ieuenctid sy’n ceisio gwella eu harferion, rydym wedi datblygu’r Cyfeirlyfr o Egin Arferion Effeithiol. Mae’r adnodd hwn yn cynnig cronfa ddata o raglenni a phrosesau, a ddatblygwyd gan wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, ac sydd wedi’u nodi’n enghreifftiau o arferion addawol. Mae’r cyfeirlyfr ar gael ar ein gwefan, ac mae’n darparu modd o rannu’r arferion addawol hyn fel nad yw gwasanaethau’n dyblygu ymdrechion.