Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB)
Amrywiaeth
Mae’n rhaid i bobl ifanc sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid gael eu trin yn deg ac yn gyfartal
Mae’r YJB yn credu y dylai pobl ifanc sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid gael eu trin yn deg ac yn gyfartal:
- beth bynnag fo’u hil neu’u crefydd
- p’un a ydynt yn fechgyn neu’n ferched, yn hoyw neu beidio
- er gwaethaf unrhyw anabledd a allai fod ganddynt.
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod cyfran y bobl ifanc ddu a’r bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig eraill sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid, yn uchel o’i chymharu â chyfansoddiad y boblogaeth yn gyffredinol.
Mae gwaith ymchwil gan Brifysgol Rhydychen, a ariannwyd gan yr YJB, wedi dangos hefyd bod pobl ifanc weithiau’n cael eu trin yn annheg ar sail eu rhyw.
Mae’n rhaid i bobl ifanc ddu a phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig gael eu dedfrydu mewn modd teg a chytbwys. Mae’n dal i fod yn destun pryder i’r YJB bod gormod o bobl ifanc ddu a phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig yn dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid. Rydym yn cynnig anogaeth a chymorth i ddalfeydd a chynlluniau atal troseddau yn y gymuned sy’n ceisio diwallu anghenion pobl ifanc ddu a phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig.
Un o dargedau corfforaethol yr YJB yw sicrhau, erbyn Mawrth 2008, bod gan dimau troseddau ieuenctid gynlluniau yn eu lle i sicrhau bod pobl ifanc o grwpiau ethnig gwahanol yn cael eu trin yn yr un modd â phawb arall am gyflawni troseddau tebyg. Rydym yn darparu arweiniad, adnoddau a chyllid i helpu timau troseddau ieuenctid i gyflawni’r gwaith hwn.
Mae’r YJB wedi cyflwyno cymwysterau newydd mewn cyfiawnder ieuenctid er mwyn ceisio denu amrywiaeth fwy eang o bobl i weithio yn y maes.
Mae’r YJB hefyd yn buddsoddi £45 miliwn mewn cynlluniau ymyrraeth gynnar. Mae timau troseddau ieuenctid yn cael eu hannog i gynnwys rhaglenni sydd wedi’u hanelu’n benodol at ddiwallu anghenion cymunedau o bobl ddu a phobl o leiafrifoedd ethnig eraill.