Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB)
Cyfnod mewn dalfa
Mae’n anochel y bydd yn rhaid i leiafrif bychan o blant a phobl ifanc sy’n troseddu dreulio cyfnod mewn dalfa, a hynny oherwydd difrifoldeb eu trosedd, pa mor aml y maent yn troseddu neu’r risg y maent yn ei pheri i’r cyhoedd. Fodd bynnag, mae’r YJB am wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod yr opsiwn hwn ond yn cael ei ddefnyddio pan fydd popeth arall wedi methu. At hynny, mae’r YJB am sicrhau bod y mannau lle caiff pobl ifanc eu cadw yn saff, yn ddiogel ac yn mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd yr ymddygiad troseddol.
Mae’r YJB yn gyfrifol am:
Rydym yn gwario tua 70% o’n cyllideb ar ddarparu lleoedd mewn dalfeydd. Mae’r tabl isod yn dangos sawl lle yr ydym yn ei brynu ym mhob math o sefydliad.
Nifer y lleoedd sydd ar gael o fewn y mannau diogel (Mawrth 2006)
Mae ein strategaeth ar gyfer y mannau diogel i blant a phobl ifanc, Strategy for the Secure Estate for Children and Young People, a gyhoeddwyd yn 2005, yn rhestru’r egwyddorion yr ydym yn eu defnyddio i ddatblygu’r mannau diogel, a’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud dros y tair blynedd nesaf i’w gwella. Os hoffech wybod pa gynnydd yr ydym wedi’i wneud, gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth yn y ddogfen ganlynol: Update on the Strategy for the Secure Estate for Children and Young People.
Un o’r nodau allweddol a amlinellir yn y strategaeth ar gyfer y mannau diogel yw ymrwymiad yr YJB i symud pob merch ifanc dan 18 oed o garchardai ar gyfer oedolion. Rydym wedi comisiynu pum uned newydd yn benodol ar gyfer menywod ifanc yn rhan o’r Gwasanaeth Carchardai, a chyn hir bydd gan Ganolfannau Hyfforddi Diogel Rainsbrook a Hassockfield unedau pwrpasol hefyd.
Yn ogystal, bydd gan Rainsbrook nifer fach o leoedd ar gyfer merched beichiog a mamau a’u babanod cyn hir. Dyma fydd y lleoedd cyntaf o’u math yn hanes y mannau diogel ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd yr unedau hyn yn golygu bod y Canolfannau Hyfforddi Diogel hyn yn medru ymdrin yn well ag anghenion penodol menywod ifanc, a byddant hefyd yn cynnig mwy o hyblygrwydd yn y tymor hir o ran cadw merched a menywod ifanc mewn dalfeydd.
Rydym hefyd yn gyfrifol am ddod o hyd i lety diogel priodol ar gyfer plant a phobl ifanc dan 18 oed sydd wedi’u remandio neu’u dedfrydu i’r ddalfa gan y llysoedd. Cliciwch ar y ddolen gyswllt os hoffech wybod mwy ynghylch lleoli pobl ifanc mewn dalfeydd.
Yn olaf, rydym yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau diogel ac yn monitro eu perfformiad. Os hoffech wybod mwy am ein gwaith monitro perfformiad, ewch i’n tudalen ar fonitro lle gallwch ddarllen am y modd yr ydym yn mesur perfformiad y sefydliadau diogel yn erbyn y safonau yr ydym yn eu gosod ar eu cyfer a thelerau eu contract.