Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB)
Osgoi anfon plant a phobl ifanc i ddalfeydd
Nod yr YJB yw cynorthwyo’r system cyfiawnder ieuenctid yn y gwaith o leihau nifer y plant a’r bobl ifanc dan 18 oed sy’n cael eu cadw mewn dalfeydd o 10% erbyn 2008, a hynny drwy weithredu’r rhaglen waith ar gyfer lleihau’r defnydd a wneir o ddalfeydd gymaint ag sy’n bosibl.
Er mwyn helpu i gyrraedd y nod hwn, rydym yn cyllido ac yn cefnogi cynlluniau a rhaglenni eraill y gellir eu gweithredu gyda’r rheiny sy’n cyflawni troseddau mwy difrifol a’r rheiny sy’n troseddu’n barhaus, gan gynnwys y Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys (ISSP) a maethu dwys.
Y Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys
Cafodd y Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys ei chreu yn dilyn tystiolaeth oedd yn awgrymu mai 3% o droseddwyr ifanc oedd yn gyfrifol am 25% o’r holl droseddau gan bobl ifanc. Mewn ymateb i hyn, oddi ar 2001, mae’r YJB wedi buddsoddi tua £80 miliwn mewn sefydlu Rhaglenni Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Ystyrir mai dyma’r dewis mwyaf cadarn i’w ddefnyddio heblaw anfon plant a phobl ifanc i ddalfeydd.
Mae’r Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys ar gael drwy’r flwyddyn ac mae wedi’i chynllunio i:
- weithio gyda’r grwpiau targed a’u cael i droseddu’n llai aml a chyflawni troseddau llai difrifol
- mynd i’r afael ag anghenion sylfaenol troseddwyr a’r ffactorau sy’n arwain at droseddu, gan roi pwyslais arbennig ar addysg a hyfforddiant
- rhoi tawelwch meddwl i gymunedau drwy gadw golwg manwl ar droseddwyr (gan ddefnyddio tagiau electronig), ac ategu hynny gyda chamau gorfodi llym.
Mae’r Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys yn cynnwys hyd at 25 awr o oruchwyliaeth yr wythnos am y tri mis cyntaf. Gall cymryd rhan mewn rhaglen o’r fath fod yn amod sydd ynghlwm wrth fechnïaeth, yn un o ofynion Gorchymyn Goruchwylio neu Orchymyn Ailsefydlu Cymunedol, neu’n gydran gymunedol o ddedfryd i dreulio cyfnod mewn dalfa (Gorchymyn Cadw a Hyfforddi (DTO) neu ddedfryd dan Adran 90/91). Nid yw’n orchymyn llys.
Yn 2005, cyhoeddodd yr YJB adroddiad ar y Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys, gan Ganolfan Droseddeg Prifysgol Rhydychen. Roedd yr adroddiad yn dangos bod pobl ifanc a oedd yn cael cymorth y Rhaglen Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth Ddwys yn cyflawni cymaint â 39% yn llai o droseddau yn ystod y ddwy flynedd ar ôl cychwyn y rhaglen. Roedd difrifoldeb eu troseddau yn cael ei leihau gymaint â 13%. At hynny, gwelwyd bod y rhaglen yn cael effaith sylweddol ar statws addysgol pobl ifanc a’i bod yn gweithio’n arbennig o dda gyda menywod ifanc.
Maethu dwys
Mae’r YJB yn cyllido’r rhaglen maethu dwys, sy’n opsiwn arall i’w ddefnyddio yn achos plant a phobl ifanc y teimlir bod eu bywyd cartref wedi cyfrannu’n sylweddol at eu hymddygiad troseddol.
Yn yr un modd â chosbau cymunedol eraill, nod maethu dwys yw dal person ifanc i gyfrif am ei droseddau, gan sicrhau ei fod yn cael y cymorth y mae ei angen arno yn ei gymuned i fynd i’r afael â’r ffactorau a all fod wedi cyfrannu at ei ymddygiad troseddol. Mae’r rhaglen yn darparu gofal dwys iawn ar gyfer pob unigolyn am hyd at 12 mis, yn ogystal â rhaglen gynhwysfawr o gymorth ar gyfer ei deulu. Mae’n seiliedig ar raglen a gaiff ei defnyddio’n helaeth yn yr Unol Daleithiau o’r enw Multi-Dimensional Treatment Foster Care.
Ar hyn o bryd mae’r cynllun maethu dwys yn cael ei dreialu gyda darparwyr gofal maeth yn swydd Hampshire a swydd Stafford ac mewn deg o fwrdeistrefi yn Llundain. Dechreuodd y gwaith o leoli pobl ifanc mewn cartrefi yn gynnar yn 2005.
Daeth maethu dwys i’r amlwg yn rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, sy’n gwneud darpariaeth i gynnwys gofal maeth yn un o ofynion Gorchymyn Goruchwylio.