Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB)
Llety ac ailsefydlu
Mae dychwelyd i gartref neu lety anaddas ac ansefydlog yn ffactor risg mawr o safbwynt troseddu. Mae’n ei gwneud yn llawer anoddach i bobl ifanc fynychu’r ysgol, cael swydd, cofrestru â meddygfa, neu elwa o raglenni sy’n mynd i’r afael ag ymddygiad troseddol.
O’r holl bobl ifanc sy’n cael eu gweld gan y Timau Troseddau Ieuenctid mae un o bob pump yn cael eu hasesu fel rhai y mae angen cartref arnynt. Mae’r YJB felly wedi llunio strategaeth lety, sy’n mynd i’r afael â materion yn ymwneud â dod o hyd i lety addas ar gyfer pobl ifanc sy’n troseddu, a datblygu llety o’r fath.
Yn ogystal, mae amryw o raglenni ailsefydlu ar gael i helpu pobl ifanc i gael eu traed tanynt wedi iddynt adael y ddalfa. Mae dod o hyd i lety addas yn gallu achosi problemau penodol i bobl ifanc sy’n gadael y ddalfa, a heb gyfeiriad i fynd iddo fe allent golli’r cyfle i gael eu rhyddhau’n gynnar.
Mae angen i’r broses ailsefydlu fynd i’r afael hefyd â phob agwedd arall ar fywyd person ifanc. Dylai’r broses hon gael ei chydlynu rhwng ystod o asiantaethau, er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn medru cael mynediad i’r gwasanaethau prif-ffrwd a’r gwasanaethau arbenigol y mae ganddynt hawl iddynt, wedi iddynt ddychwelyd i’r gymuned. Dylai’r broses gychwyn cyn i berson ifanc fynd i’r ddalfa, a pharhau wedi i'r ddedfryd ddod i ben.
Mae’r YJB yn gweithio er mwyn:
- ymchwilio i arfer da ym maes ailsefydlu pobl ifanc a lledaenu’r arfer da hwnnw gyda’r nod o wella ansawdd yr hyn a ddarperir
- monitro’r cynnydd a wneir o ran gweithredu’r fframwaith a geir yn ein cyhoeddiad, Youth Resettlement – A Framework for Action
- sicrhau bod gwasanaethau ailsefydlu yn gweithio, a hynny gan ddefnyddio ein gweithdrefn sicrhau ansawdd.