English | Cymorth | Cysylltu â ni
YJB Hafan / Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid / Aelodau'r Bwrdd
Corfforaethol Hafan
Cenhadaeth, Gweledigaeth a Gwerthoedd
Sut yr ydym yn gweithio
Beth yr ydym yn ei wneud
Aelodau'r Bwrdd
Canolfan y Cyfryngau
Deddfwriaeth ac Adroddiadau
Swyddi
Mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr yn cynnwys 10-12 aelod a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref.
Frances Done yw Cadeirydd yr YJB. Yn ystod ei gyrfa bu’n gweithio o fewn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Mae Graham Robb wedi bod yn brifathro ar ddwy ysgol uwchradd, yn fwyaf diweddar Ysgol Drayton, yn Swydd Rydychen, lle'r oedd datblygiadau mewn cyfiawnder adferol yn hanfodol yn y gwaith o wella’r ysgol.
Mae gan Dr Julie Hollyman dros 20 mlynedd o brofiad ym maes iechyd meddwl a materion gofal iechyd yn gyffredinol.
Mae Rosanna O’Connor wedi bod yn Gyfarwyddwr Rheolaeth Ranbarthol yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Trin Problemau Camddefnyddio Sylweddau (yr NTA) er mis Ebrill 2003.
Yn dilyn cyfnod fel athro ysgol uwchradd yn y Corfflu Heddwch yn Zaire yn ystod yr wythdegau cynnar, mae Bob Reitemeier wedi cael dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector gwirfoddol.
Cafodd David Simpson ei benodi’n ynad cyflog Llundeinig (sef barnwr rhanbarth erbyn hyn) yn 1993, a chyn hynny roedd yn glerc yr ynadon.
Arferai Chris Holmes fod yn Gyfarwyddwr Shelter ac mae wedi bod yn ymwneud â materion tai ers nifer o flynyddoedd.
Y Parchedig Ddoctor Alan Billings yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Moeseg a Chrefydd, ym Mhrifysgol Lancaster, ac ef hefyd yw Ficer eglwys Saint George, Kendal.
Mae gan Salima Hafejee dros bymtheng mlynedd o brofiad o waith proffesiynol a gwaith datblygu strategol mewn perthynas â phobl ifanc yn y sector ieuenctid gwirfoddol yn ogystal â’r sector ieuenctid statudol.
Ymunodd Charles Clark â Heddlu Essex yn 1968 ac ymddeolodd fel Dirprwy Brif Gwnstabl yr heddlu hwnnw ym mis Rhagfyr 2006.