Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB)
Cenhadaeth, Gweledigaeth a Gwerthoedd
Ein cenhadaeth
Mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr (YJB) yn goruchwylio’r system cyfiawnder ieuenctid. Rydym yn gweithio i atal plant a phobl ifanc dan 18 oed rhag troseddu ac aildroseddu, a sicrhau bod y mannau hynny lle cânt eu cadw ar ôl troseddu yn saff, yn ddiogel, ac yn mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd eu hymddygiad troseddol. Yn benodol, rydym yn:
- Cynghori’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ynglŷn â’r modd y mae’r system cyfiawnder ieuenctid yn gweithredu a’r safonau ar gyfer y system
- monitro perfformiad y system cyfiawnder ieuenctid
- prynu lleoedd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi’u remandio neu’u dedfrydu i’r ddalfa, a’u lleoli mewn sefydliadau priodol
- adnabod a hyrwyddo arfer effeithiol
- rhoi grantiau i awdurdodau lleol neu gyrff eraill i gefnogi’r gwaith o ddatblygu arfer effeithiol
- comisiynu ymchwil a chyhoeddi gwybodaeth.
Mae ein holl waith wedi’i seilio ar dystiolaeth lle bo hynny’n bosibl.
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw cael system cyfiawnder ieuenctid effeithiol, lle:
- mae mwy o droseddwyr yn cael eu dal, yn cael eu galw i gyfrif am eu gweithredoedd, ac yn peidio â throseddu
- mae plant a phobl ifanc yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt i fyw eu bywydau heb droseddu
- mae dioddefwyr yn cael gwell cymorth
- mae gan y cyhoedd fwy o hyder yn y system cyfiawnder ieuenctid.
Ein Gwerthoedd
Mae pob peth yr ydym yn ei wneud yn seiliedig ar ein gwerthoedd craidd.
- Arweiniad – rydym yn defnyddio ein dylanwad i helpu i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer y system cyfiawnder ieuenctid.
- Partneriaeth – rydym yn cydnabod gwerth gweithio gydag eraill i helpu i gyflawni ein nodau a’n targedau.
- Gwaith Tîm – rydym yn annog pobl i weithio o fewn ffiniau ac ar draws ffiniau.
- Bod yn agored – rydym yn ymdrechu i weithio mewn modd agored ac uniongyrchol, a rhannu gwybodaeth, dealltwriaeth, profiad a sgiliau.
- Parch – rydym yn parchu amrywiaeth a phrofiad ein holl gydweithwyr a phartneriaid. Rydym yn gweithio i sicrhau bod y plant a’r bobl ifanc sy’n derbyn gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn cael eu trin â pharch, a’u bod hwy yn eu tro yn parchu eu cymuned.
- Ymddiriedaeth – ein nod yw cael ein parchu am ein didwylledd, ein hymddygiad a’n hymrwymiad.